Mae Gan Periwinkle Galon Fawr

Mae Periwinkle, coblyn y môr, yn ddireidus, yn fawr ei galon ac yn warcheidwad y Cleddau sy'n dwlu ar archwilio arfordir Sir Benfro ac mae e’n edrych ymlaen yn arw at eich cyfarfod chi gyd fis Rhagfyr wrth i Rapunzel ddod yn fyw i lwyfan Theatr Torch. O Broad Haven a Little Haven, i Druidstone, Niwgwl a Thyddewi, mae gan Periwinkle bwerau a galluoedd hudolus, cryfder cranc, neu gyflymder ac ystwythder pysgodyn!

Mae Eifion ap Cadno, sy'n chwarae rhan Periwinkle, yn dod o Fangor yng ngogledd Cymru. Hyfforddodd mewn Actio a Theatr Gyfoes yn Ysgol Actio East 15 cyn mynd allan i berfformio gyda chwmnïau theatr ledled y DU, yr Almaen ac Awstria. Dyma fydd ei ymddangosiad pantomeim cyntaf erioed, ac mae'n edrych ymlaen yn arw at ddifyrru cynulleidfaoedd Sir Benfro.

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn at gymryd rhan gan fod popeth amdano mor gadarnhaol. Mae’r sgript wreiddiol yn wallgof, mae aelodau’r cast mor hael a chefnogol, mae pawb sy’n gysylltiedig mor dalentog a llawenydd yw gweithio gyda nhw. Mae symud o ymarferion yn y stiwdio i’r prif lwyfan a gweld yr holl elfennau dylunio a thechnegol yn dod at ei gilydd wedi bod yn brofiad hudolus. Rwy’n teimlo’n freintiedig iawn i fod yn rhan o dîm a chynhyrchiad mor wych,” meddai Eifion.

Bydd cynulleidfaoedd wrth eu bodd â gwedd arbennig Periwinkle, wedi'i orchuddio â rhwydi, gwymon, cregyn a chwrel, a gwallt mawr iawn glas. Gall symud fel slefren fôr, weithiau cranc, weithiau pysgodyn, neu unrhyw beth sy'n byw yn y môr. Mae’n gallu bod yn wirion iawn ar adegau.

"Mae gan Periwinkle olwg etha' ffantastig, a dweud y lleiaf. Wedi'i gwisgo'r dillad, rhoi fy holl golur ar fy wyneb a gwisgo'r wig (nid fy ngwallt go iawn ydyw, ymddiheuriadau am eich siomi), byddaf yn teimlo mewn cymeriad. mae'r dylunydd ar criw gwisgoedd wedi gwneud gwaith mor anhygoel, - rwy'n gweld, unwaith y byddaf wedi gwisgo'n berffaith, fod y rhan fwyaf o'r gwaith wedi'i wneud!"

Mae’r Periwinkle hudolus a direidus wedi bod yn ffefryn gyda phlant ysgol yn ystod sesiynau pantomeim yr ysgol ac mae cefnogaeth y gynulleidfa wedi rhoi tawelwch meddwl i Eifion. “Y gwir yw, does dim byd all eich paratoi chi’n hollol ar gyfer y llwyfan – mae’n brofiad mor wahanol cael yr holl blant hynny’n eistedd yn eich gwylio chi! Ac nid ydyn nhw wedi eistedd yn dawel hyd yma, maen nhw wedi cymryd rhan go iawn. Mae Periwinkle am fod yn ffrindiau gorau gyda’r gynulleidfa a’u cael nhw i helpu i ymladd yn erbyn y wrach greulon, Mother Gothel, ac mae hyn wedi golygu llawer o ryngweithio gyda’r gynulleidfa!”

Gellir gweld Rapunzel, yr antur gyffrous ar lwyfan Theatr Torch nawr tan ddydd Sul 28 Rhagfyr. Perfformiad Amgylchedd Hamddenol ddydd Sadwrn 13 Rhagfyr am 2pm a Pherfformiad Dehongli Iaith Arwyddion Prydain ddydd Mawrth 16 Rhagfyr am 6pm. Pris tocyn: £24.50 | £20.00 Gostyngiadau | £78.00 Teulu. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Theatr Torch www.torchtheatre.co.uk / ffonwich y Swyddfa Docunnau ar (01646) 695267 neu gliciwch yma. 

Llun gan: Chris Lloyd

 

 

 

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.