Dewch i Ddarllen am Anturiaethau Periwinkle!

Ydych chi wedi cwrdd â Periwinkle, coblyn môr rhyfeddol sy'n ymddangos ym mhantomeim Rapunzel eleni? Cafodd Anwen sgwrs gyda'r actor Eifion Ap Cadno i ddysgu rhagor am y cymeriad sy'n hoffi chwilota arfordir Sir Benfro.

Dyweda ychydig wrthym am Periwinkle a pham y bydd cynulleidfaoedd wrth eu bodd â'r coblyn môr hudolus.

Mae Periwinkle yn goblyn môr ac yn greadur hudolus. Mae hefyd yn gwarchod y Cleddau! Mae Periwinkle yn mwynhau archwilio'r cefnfor a'r glannau o amgylch Aberdaugleddau, ac yn gwneud ffrindiau ag amrywiol anifeiliaid ac yn gweithio i gadw pobl yn ddiogel allan ar y môr. Mae Periwinkle wedi adnabod Rapunzel ers pan oedd hi'n fabi ac yn ceisio cadw llygad arni a'i helpu.

Bydd cynulleidfaoedd wrth eu bodd â gwedd wych Periwinkle, wedi'i gwisgo mewn rhwydi, gwymon, cregyn a chwrel, a gwallt mawr glas trawiadol. Mae gan Periwinkle bwerau a galluoedd hudolus, fel llaw slefren fôr sy'n pigo, gall harneisio arfwisg a chryfder cranc, neu gyflymder ac ystwythder pysgodyn! Mae gan Periwinkle galon euraid ond mae ei meddwl yn tasgu o un pwnc i’r llall, mae hefyd yn ddireidus ac yn wirion.

Dyma fydd dy bantomeim cyntaf, wyt ti’n edrych ‘mlaen at y profiad?

Ydw, yn fawr iawn! Rydw i mor falch mai dyma fy mhantomeim cyntaf, gan fod popeth amdano mor gadarnhaol. Mae'r sgript wreiddiol yn wallgof, mae aelodau'r cast mor hael a chefnogol, mae pawb sy'n gysylltiedig mor dalentog ac mae’n bleser cydweithio â nhw. Mae symud o ymarferion yn y stiwdio i'r prif lwyfan a gweld yr holl elfennau dylunio a thechnegol yn dod at ei gilydd wedi bod yn hudolus. Rydw i'n teimlo'n freintiedig iawn i fod yn rhan o dîm a chynhyrchiad gwych.

O ran y perfformiad, mae'n gyfle gwych i chwarae'r clown, mynd i gymeriad a chael llawer o hwyl. Mae'r drefn gorfforol, y gân a'r ddawns yn her braf, ac mae wedi fy ngwthio allan o fy mharth cysur ar adegau ond rydw i wedi teimlo fy mod i wedi cael cefnogaeth dda ar hyd y ffordd. Roeddwn i hefyd ychydig yn nerfus, ond mae hynny i gyd yn rhan o'r profiad!

Sut fyddi di’n mynd i gymeriad?

Mae Periwinkle yn edrych yn eitha’ ffantastig a thrawiadol. Mae gwisgo'r wisg, rhoi fy holl golur ar waith a rhoi’r wig ar fy mhen (nid fy ngwallt go iawn ydyw, mae'n ddrwg ‘da fi eich siomi) yn bendant yn rhan fawr o fynd i gymeriad. Mae'r dylunydd a'r tîm gwisgoedd wedi gwneud campau o ddod â Periwinkle yn fyw - dw i'n gweld, unwaith dw i wedi gwisgo'n berffaith, bod y rhan fwyaf o'r gwaith eisoes wedi'i wneud! Mae'r ymddangosiad yn ysbrydoli llawer o gorfforoldeb y cymeriad. Weithiau mae Periwinkle yn symud fel slefren fôr, weithiau cranc, weithiau pysgodyn, neu unrhyw beth sy'n byw yn y môr! Felly ydy, mae chwarae gyda'r math hwn o symudiad yn fy helpu.

Disgrifia Periwinkle mewn tri gair.

Hudolus. Direidus. Morwrol.

Cer â ni ar antur ar y môr a rho uchafbwynt y pantomeim i ni hyd yma.

Y cwpl cyntaf o sioeau ysgol! Ar ôl tair wythnos o ymarferion a sawl diwrnod o wirio’r dechnoleg a mireinio, byddech chi'n meddwl y bydden ni'n barod am gynulleidfa... ond y gwir yw, does dim byd all eich paratoi chi - mae'n brofiad mor wahanol o gael yr holl blant hynny'n eistedd yn eich gwylio chi! Ac nid ydyn nhw wedi eistedd yn dawel hyd yma, maen nhw wedi cymryd rhan go iawn gan fod Periwinkle am fod yn ffrindiau gorau gydag aelodau o’r gynulleidfa a'u cael i helpu i ymladd yn erbyn y wrach greulon Mother Gothel!

Roeddwn i’n eithaf nerfus cyn y sioe gyntaf, ond cyn gynted ag y des i oddi ar y llwyfan ar ôl fy monolog cyntaf, teimlais y wefr – gallaf fwynhau fy hun go iawn.

Pwy yw ffrindiau Periwinkle?

Mae Periwinkle yn ffrindiau gyda Zephyr, y pâl sy'n dod yn ffrindiau gyda Rapunzel. Mewn gwirionedd, mae Periwinkle wedi bod yn cadw llygad ar Rapunzel ers pan oedd hi'n fabi bach, ac yn ceisio ei helpu pryd bynnag y gall. Mae Periwinkle hefyd yn ffrindiau gyda Belinda Beehive, y Fonesig, ac yn araf bach mae'n dod i hoffi'r Tywysog Nathaniel, ar ôl iddyn nhw ddim weld llygad i lygad ar y dechrau!

Ydy Periwinkle yn dda yn dawnsio a chanu?

Ha ha, wel, gadewch i ni ddweud bod Periwinkle wedi gwella wrth ddawnsio a chanu dros yr wythnosau diwethaf. Maen nhw'n cael canu allan ar y môr tra ar gwch, yn ogystal â chael ychydig o ddawnsio ar y diwedd. Mae dysgu'r caneuon a'r coreograffi wedi bod yn brofiad heriol ond gwerth chweil, ac unwaith eto, mae'r cast a'r tîm creadigol wedi bod yn gefnogol iawn.

Beth yw barn Periwinkle am Sir Benfro a Theatr Torch? Ydy Periwinkle yn gyffrous i ymddangos ar lwyfan?

Mae Periwinkle wrth ei bodd yn Sir Benfro! Mae'r arfordir yn hollol syfrdanol, ar ôl ymweld yn ddiweddar â Broad Haven a Little Haven, Druidstone, Niwgwl a Thyddewi, ac mae Periwinkle yn edrych ymlaen at archwilio rhagor o lefydd!

Mae Periwinkle wrth ei bodd yn perfformio yn Theatr Torch. Mae'n lleoliad mor hyfryd a chroesawgar. Mae Periwinkle yn teimlo'n freintiedig ac yn ddiolchgar iawn o fod yma, ac mae wrth ei bodd yn chwarae ar lwyfan mor fawr a hwyliog! Hwyl fawr i chi gyd!

Rapunzel, Gellir gweld yr antur syfrdanol ar lwyfan Theatr y Torch o ddydd Sadwrn 6 Rhagfyr i ddydd Sul 28 Rhagfyr. Perfformiad Amgylchedd Hamddenol ddydd Sadwrn 13 Rhagfyr am 2pm a Pherfformiad Dehongli Iaith Arwyddion Prydain ddydd Mawrth 16 Rhagfyr am 6pm. Pris tocyn: £24.50 | £20.00 Gostyngiadau | £78.00 Teulu. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Theatr Torch www.torchtheatre.co.uk / ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar (01646) 695267 neu gliciwch yma.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.