Ysgolion yn Cael eu Hannog i Wneud Cais am Gronfa 'Ewch i Weld’

Gall profi’r celfyddydau fod yn ysbrydoledig, yn heriol, yn ddiddorol, ac yn hwyl, ac mae ganddo ran bwysig i’w chwarae ym mhrofiadau dysgu pobl ifanc lle bynnag meant yn byw yng Nghymru. Mae Theatr Torch yn annog pob ysgol ledled Sir Benfro i wneud cais am Gronfa Ewch i Weld Cyngor Celfyddydau Cymru. Mae’r gronfa arian hon yn cefnogi ysgolion i gael mynediad at ddarpariaethau celfyddydol o ansawdd uchel, a pha ffordd well o wneud hynny na thrwy weld cynhyrchiad hydref Theatr Torch o Turn of the Screw neu ei phantomeim Nadoligaidd, Rapunzel.

Y llynedd, cafodd Theatr Torch nifer record o ysgolion yn gwneud cais am y gronfa.

“Roedd yn wych gweld cymaint o ysgolion yn gwneud cais am y Gronfa, ac i chwech fod yn llwyddiannus. Rydyn ni’n gwybod bod costau cynyddol ar draws y bwrdd yn gwneud teithiau i’r theatr yn fusnes costus, felly mae’n wych bod Cyngor y Celfyddydau wedi creu’r cronfeydd hyn i wneud yn siŵr nad oes neb yn colli cyfle! Llwyddodd yr ysgolion llwyddiannus i ddefnyddio’r cronfeydd i gyfrannu at deithio a thocynnau”, meddai Tim Howe, Uwch Reolwr, Ieuenctid a Chymuned yn y Torch.

 “Os ydych chi, neu’ch ysgol yn gwneud cais, mae croeso i chi gysylltu â ni a byddem yn fwy na pharod i’ch cynorthwyo”, meddai Tim i gloi.

Mynychodd disgyblion o Ysgol Gelli Aur bantomeim Jack and the Beanstalk yn Theatr Torch y llynedd ar ôl bod yn llwyddiannus yn eu cais am Gronfa Ewch i Weld.

“Roedd cael mynediad at y grant yn ffordd wych o’i gwneud hi’n haws i’n plant brofi’r profiad ‘theatr’ byw. Daeth y cyffro, y chwerthin a’r llawenydd a wnaethant eu rhannu yn atgofion gwerthfawr. Daeth hud y pantomeim â’r Nadolig yn fyw iddyn nhw, a gwnaed hyn yn bosibl oherwydd y grant,” meddai Andy Williams, Pennaeth yr ysgol a fydd yn gwneud cais eto eleni.

Mae cronfa ‘Ewch i Weld’ yn dyfarnu hyd at £1000 i unrhyw ysgol sy’n gwneud cais o fewn pum wythnos i fynychu eu profiad celfyddydol. Mae gan Gyngor y Celfyddydau hefyd ail bot ar gael o’r enw ‘Rhowch Gynnig Arni’ y gall ysgolion ei ddefnyddio ar gyfer gweithdai a gweithgareddau ymarferol sy’n canolbwyntio ar y celfyddydau mynegiannol. Mae’r pot £1500 hwn yn ddelfrydol ar gyfer gwahodd Theatr Torch i ysgolion ar gyfer gweithgareddau creadigol sy’n gysylltiedig â’u cynyrchiadau hydref a Nadolig.

Bydd The Turn of the Screw yn ymddangos ar lwyfan Theatr Torch o ddydd Mercher 8 Hydref i ddydd Sadwrn 25 Hydref. Tocynnau: £18-£28. Gellir gweld Rapunzel o ddydd Sadwrn 6 Rhagfyr i ddydd Sul 28 Rhagfyr. Mae perfformiadau ysgolion yn dechrau o 26 Tachwedd. Mae prisiau Grwpiau Ysgol ar gael.

I archebu tocynnau drwy’r wefan ewch i torchtheatre.co.uk neu ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 01646 695267. Neu am gyngor ar un o'r cronfeydd a grybwyllir cysylltwch â tim@torchtheatre.co.uk.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.