Beth Sydd Ddim i'w Garu Am y Tywysog Nathaniel o Neyland?

Mae'n falch, yn frwdfrydig, yn ddramatig, yn ffyddlon ac yn annwyl – dyma'r Tywysog Nathaniel o Neyland wrth iddo ymddangos ar lwyfan Theatr Torch y tymor Nadoligaidd hwn yn Rapunzel. Wedi'i chwarae gan y Harry Lynn swynol, bydd aelodau'r gynulleidfa y tu ôl i'r cymeriad wrth iddo geisio helpu'r ferch â'r gwallt euraid ar bob cyfle.

Gan ddisgrifio ei gymeriad fel “rhyfeddol o hurt, brwdfrydig, arwr comedig â chalon fawr,” mae Harry yn credu bod y Tywysog Nathaniel o Neyland yn “ymgorfforiad o ddewrder brenhinol, gan daro ei ‘Ystum Tywysog’ dramatig ar bob cyfle.”

“Ond mewn gwirionedd mae’n aml yn nerfus, yn ddramatig, ac yn hynod ddoniol. Mae’n cael ei bampro, yn hawdd ei gynhyrfu, ac yn poeni’n arw am ei wallt… i’r pwynt bod torri gwallt yn salon Belinda yn dod yn ddigwyddiad llawn. Ond o dan yr holl frolio a hiwmor, mae’n ffyddlon, yn ofalgar, ac yn gwbl benderfynol o wneud y peth iawn, yn enwedig pan fydd Rapunzel ei angen,” meddai Harry, a hyfforddodd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Bydd aelodau’r gynulleidfa’n syrthio mewn cariad â’r Tywysog Nathaniel o Neyland wrth iddo geisio achub y dydd.

“Mae’n swynol yn y ffordd pantomeim hollol amherffaith honno: hyderus ond yn ddi-glem, dewr ond yn swil, a bob amser yn gwneud ei orau. A phan mae digwydiad o bwys, mae’n camu ymlaen o ddifrif. P’un a all achub y dydd yn llwyr… wel, pantomeim yw hwn, felly mae angen ychydig o help ar bob arwr ar hyd y ffordd. Gadewch i ni ddweud ei fod yn chwarae rhan annatod yn niwedd chwedl tylwyth teg Rapunzel,” eglurodd Harry.

Mae Harry wrth ei fodd â thymor y pantomeim ac mae newydd orffen perfformio yn y Wizard of Oz fel Hunk/Bwgan Brain yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.

“Mae tymor y pantomeim yn llawenydd pur - cynulleidfaoedd swnllyd, llawer o chwerthin, dos iach o fyrfyfyrio, a’r awyrgylch Nadoligaidd arbennig hwnnw lle gall unrhyw beth ddigwydd. Mae’n brofiad theatr heb ei ail, a’r ffordd berffaith o ddathlu’r Nadolig.

“Mae cymeriadau fel y Bwgan Brain - a nawr y Tywysog Nathaniel - yn annwyl, yn ddoniol, ac yn llawn calon. Maen nhw'n rhoi caniatâd i chi fod yn hynod o chwareus, corfforol, ac (wrth gwrs) yn anhygoel o hurt ar y llwyfan, sydd fel arfer yn creu ymateb cynnes a hael gan y gynulleidfa.”

Mae Tywysog Nathaniel o Neyland bob amser yn cael ei ddal yng nghanol popeth. Mae'n cael ei erlid, ei chwistrellu, ei saethu, ei daro yn yr wyneb, ei drydanu, ei ddal mewn dilyniant ysgol gymhleth… mae'n llewygu, yn cwympo, yn sefyll, yn panicio, ac yn cuddio y tu ôl i Belinda pryd bynnag y mae'n ofnus.

“Mae’n dipyn! Yr her yw cadw’r gomedi yn fawr ac yn feiddgar wrth barhau i gynnal ei swyn - mae’n bendant yn weithred o gydbwyso,” eglurodd Harry sy’n methu aros i’ch croesawu chi gyd i’r Torch. “Mae cael y Tywysog yn cyrraedd mewn modd brenhinol llawn, dim ond i gael ei chwistrellu yn ei wyneb a’i saethu gan Belinda, yn anhrefn panto - mae’n hwyl fawr i’w berfformio a (gobeithio) hyd yn oed yn fwy o hwyl i’w wylio,” meddai Harry.

Gellir gweld Rapunzel, yr antur gyffrous ar lwyfan Theatr Torch nawr tan ddydd Sul 28 Rhagfyr. Perfformiad Amgylchedd Hamddenol ddydd Sadwrn 13 Rhagfyr am 2pm a Pherfformiad Dehongli Iaith Arwyddion Prydain ddydd Mawrth 16 Rhagfyr am 6pm. Pris tocyn: £24.50 | £20.00 Gostyngiadau | £78.00 Teulu. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Theatr Torch www.torchtheatre.co.uk / ffonwich y Swyddfa Docunnau ar (01646) 695267 neu gliciwch yma. 

Llun gan: Chris Lloyd

 

 

 

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.