Gwallt, Cydweithio a Chodi Arian ar gyfer Achos Da

Mae Rapunzel, pantomeim tymor Nadolig Theatr Torch, ar ei anterth. Gyda digonedd o wallt aur hyfryd, cydweithiodd Tîm Marchnata’r Torch â’r adran Gwallt a Harddwch yng Ngholeg Sir Benfro yn Hwlffordd i gynnal Cystadleuaeth Plethu Gwallt. 

Aeth Emma Cox a Jenny Algieri o Dîm Marchnata’r Torch i’r Coleg gyda stoporiau yn eu dwylo wrth i bump o fyfyrwyr rasio i blethu gwallt yn erbyn y cloc.

Dywedodd Swyddog Marchnata Theatr Torch, Emma Cox:

“Cawson ni hwyl ac roedd y myfyrwyr yn awyddus iawn i gymryd rhan. Gofynnon ni iddyn nhw blethu gwallt a’u hamseru i weld pwy oedd gyflymaf. Roedd yr amseroedd yn agos, ond Laura enillodd y gystadleuaeth mewn amser o 52 eiliad.”

Roedd Marcus Smith, Tiwtor Gwallt a Harddwch yn y Coleg, wrth ei fodd bod ei fyfyrwyr wedi cymryd rhan. Dywedodd:

"Roedd yn hyfryd cydweithio â theatr leol ac i'n myfyrwyr gymryd rhan i arddangos eu sgiliau ar gamera."

Gwallt fu prif thema'r pantomeim eleni ac i ddathlu Rapunzel, rhoddodd aelodau Tîm Marchnata Theatr Torch eu pennau at ei gilydd a chreu ymgyrch ystyrlon, a gododd arian ac ymwybyddiaeth o amgylch colli gwallt - a phwy well i'w gefnogi na Ymddiriedolaeth y Dywysoges Fach.

Gwnaeth Tim Howe, Uwch Reolwr Ieuenctid a Chymuned Theatr Torch, yr ymrwymiad dewr i waredu ei wallt er mwyn cefnogi'r elusen. Yng nghwmni aelodau Theatr yr Ieuenctid a staff y Torch, roedd y digwyddiad yn llawn cymeradwyaeth, anogaeth a digonedd o wenu, gan gadw'r foment yn ysgafn wrth anrhydeddu achos pwerus.

Mae Ymddiriedolaeth y Dywysoges Fach yn gwneud gwaith anhygoel yn rhoi wigiau gwallt go iawn am ddim i blant a phobl ifanc sydd wedi colli eu gwallt trwy driniaeth canser neu gyflyrau meddygol eraill, ac yn helpu i adfer hyder yn ystod cyfnod heriol iawn.

Er nad oedd gwallt Tim yn ddigon hir i'w roi ar gyfer wig, fe wnaeth y digwyddiad greu argraff fawr o hyd. Diolch i haelioni pawb, cododd Theatr Torch £100, a fydd yn mynd tuag at gefnogi gwaith hanfodol yr Ymddiriedolaeth a'r bobl ifanc y maent yn eu helpu.

Cafodd gwallt Tim ei dorri gan Callie Thorpe, aelod o’r Theatr Ieuenctid sy'n astudio Gwallt a Harddwch Lefel 3 yng Ngholeg Sir Benfro ar hyn o bryd, gan wneud yr eiliad hyd yn oed yn fwy arbennig a dan arweiniad y gymuned.

Gellir gweld Rapunzel, yr antur syfrandol ar lwyfan Theatr Torch o nawr tan ddydd Sul 28 Rhagfyr. Pris tocyn: £24.50 | £20.00 Gostyngiadau | £78.00 Teulu. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Theatr Torch www.torchtheatre.co.uk / ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar (01646) 695267 neu gliciwch yma.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.