NOSON O ROC A ANGERDD

Yn dilyn taith o amgylch Sbaen a werthodd bob tocyn yn 2024, mae Heaven Can Wait yn gyngerdd ysblennydd a fydd yn creu argraff dros Ewrop yn 2025! Wedi'i disgrifio fel y Meat Loaf Experience gorau, gellir gweld y sioe ar lwyfan Theatr  Torch fis Chwefror.

Yn cynnwys lleisiau anhygoel Lee Brady a band byw rhagorol sy'n cynnwys cerddorion roc mwyaf medrus y DU a lleiswyr benywaidd pwerus, mae Heaven Can Wait yn cyflwyno teyrnged drydanol i ganeuon mwyaf poblogaidd Meat Loaf.

Bydd y noson hudolus, bythgofiadwy hon o roc ac angerdd yn mynd â chi ar daith rholercoster trwy anthemau eiconig, a fydd yn cynnwys I’d Do Anything for Love, Bat Out of Hell, Paradise by the Dashboard Light, You Take the Words Right Out of My Mouth, Two Out of Three Ain’t Bad, Dead Ringer for Love ... a llawer mwy!

Gellir gweld Heaven Can Wait ar lwyfan Theatr Torch ddydd Sadwrn 28 Chwefror am 7.30pm. Pris tocyn: Pris: £28. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Theatr  Torch www.tortheatre.co.uk / ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar (01646) 695267 neu gliciwch yma

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.