Bydd Rapunzel yn canu rhai o'r caneuon gorau ac yn gwneud rhywfaint o ddawnsio
Wrth i ni ddechrau ar ail wythnos ein pantomeim Nadoligaidd, Rapunzel, Anwen aeth i gael sgwrs cefn llwyfan gyda Holly Mayhew sy’n chwarae rhan Rapunzel.
Rapunzel! Dyweda ychydig wrthym am dy gymeriad a sut beth yw chwarae'r prif rôl?
Wel, wrth gwrs, mae’n gymaint o hwyl. Dw i'n cael gweld bron pob rhan o hanner cyntaf y sioe yn cael ei chwarae o fy ngoleudy. Dw i'n cael canu rhai o'r caneuon gorau a gwneud rhywfaint o ddawnsio sy’n dipyn o hwyl.
Beth yw dy hoff beth am fod yn dywysoges?
Trefnu'r partïon pen-blwydd gorau yn y sir i mi!! Cofiwch ddod draw!
Sut wyt ti’n gofalu am dy wallt hardd – onid yw'n mynd yn glymau?
Gall fy ngwallt fynd yn glym ofnadwy ac yna dw i'n sownd, hyd yn oed yn fwy sownd nag arfer. Mae'n bwysig sicrhau bod gen i sawl brws gwallt a chribau wrth law.
Zephyr y Pâl yw un o dy ffrindiau gorau – pa anturiaethau ydych chi’n mynd arnyn nhw?
Rydyn ni wrth ein bodd yn dychmygu’r holl anturiaethau y bydden ni’n mynd arnyn nhw drwy lunio straeon a chymeriadau a’u hactio yn y goleudy, fel arfer gyda chân a dawns hefyd. Bydd Zephyr yn mynd o gwmpas ac yn dweud wrtha i bopeth am y pethau anhygoel maen nhw wedi’u gweld y tu hwnt i’r hyn y gallaf ei weld o fy ffenestr, dw i’n ferch lwcus.
Beth oedd y peth mwyaf annisgwyl am y byd y tu allan i'r goleudy yma yn Sir Benfro?
Faint o anifeiliaid sydd gennych chi ar y strydoedd, dw i wedi cwrdd â nhw, cathod, cŵn, llwynogod a hyd yn oed ychydig o foch daear. Dw i'n siŵr bod rhywbeth gwahanol yn y llaeth yma yn Sir Benfro i'w wneud mor flasus.
Rydyn ni wir eisiau gwybod rhagor am Fam Gothel ... sut beth ydy hi? A ddylen ni fod ofnus?
Mae Mam Gothel yn ddewines fôr nerthol gyda phwerau cryf na ellir eu defnyddio er llesiant weithiau. Ond ei sgiliau coginio ofnadwy yw'r hyn y dylech chi wir fod ag ofn ohono.
Fel gyda phob pantomeim, mae yna bobl dda hefyd – Belinda Beehive, Tywysog Nathaniel o Neyland a Periwinkle. Pa bethau ydych chi’n eu gwneud gyda’ch gilydd?
Rydyn ni wrth ein bodd yn mynd ar anturiaethau hyd yn oed os yw hynny'n golygu ein bod ni'n gorffen mewn sefyllfa anodd mewn ffau tanddwr ac wrth gwrs yn mynd i salon Belinda Baywash, i gael trawsnewidiad.
Wyt ti’n mwynhau'r ddawns siglo yng nghwmni Zephyr?
Un o hoff bethau fi a Zephyr yw cyd-ganu a chyd-ddawnsio. Oeddech chi'n gwybod bod siglo'n ffordd syndod o dda o gael gwared â gwallt sy’n glymau i gyd?
Disgrifia Rapunzel i ni.
Mae'n eginiol ac yn benderfynol.
Sut fyddi di’n addasu i fywyd y tu allan i'r goleudy?
Drwy ddibynnu ar fy holl ffrindiau anhygoel i ddangos i mi’r gorau sydd gan y tir i’w gynnig a phlymio’n syth i’r môr - ond efallai y bydd yn rhaid i hynny aros nes ei fod ychydig yn gynhesach.
Gellir gweld Rapunzel, yr antur gyffrous ar lwyfan Theatr Torch nawr tan ddydd Sul 28 Rhagfyr. Perfformiad Amgylchedd Hamddenol ddydd Sadwrn 13 Rhagfyr am 2pm a Pherfformiad Dehongli Iaith Arwyddion Prydain ddydd Mawrth 16 Rhagfyr am 6pm. Pris tocyn: £24.50 | £20.00 Gostyngiadau | £78.00 Teulu. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Theatr Torch www.torchtheatre.co.uk / ffonwich y Swyddfa Docunnau ar (01646) 695267 neu gliciwch yma.
Llun gan: Chris Lloyd
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.