Themâu Cymhleth y Teulu, y System Gyfreithiol a Hunaniaeth Fodern

NT Live: Inter Alia - bydd drama newydd gan Suzie Miller yn ymddangos ar sgrin Theatr Torch ym mis Medi. Rosamund Pike (Gone Girl, Saltburn), a enwebwyd am Oscar, yw Jessica yn y ddrama newydd hir-ddisgwyliedig gan y tîm y tu ôl i'r ddrama boblogaidd, Prima Facie.

Mae Jessica Parks yn Farnwr Llys y Goron clyfar sydd ar frig ei gyrfa. Y tu ôl i'r wisg, mae hi'n hoff o carioci, yn wraig gariadus ac yn rhiant cefnogol. Pan fydd digwyddiad yn bygwth taflu ei bywyd allan o gydbwysedd yn llwyr, a all hi osod ei theulu ar lwybr gadarn?

Mae’r sioe wedi derbyn pedair seren gan Emma John yn y Guardian. Mae hi’n disgrifio’r ddrama fel “sylwadaeth losglyd ar y system gyfiawnder a chipolwg bwriadol anghyfforddus ar rianta cyfoes.”

Ychwanega Emma: “Jessica Parks (Pike) yw’r math o fenyw aml-sgiliau rydych chi’n gwybod bod angen mwy ohoni ar y system gyfreithiol. Mae hi’n dod â dynoliaeth a thrugaredd i’w llys, gan ddefnyddio ei sgiliau meddal i amddiffyn tystion agored i niwed wrth dorri i lawr ar gyfreithwyr gwrywaidd gyda thôn a all “dorri trwy dendonau ac esgyrn”. Ond nid barnwr llys y goron yn unig yw hi, mae hi hefyd yn jyglwr arbenigol, yn y ffordd y mae angen i fenywod uchel eu cyflawniad fod mor aml.”

Mae'r awdur Suzie Miller a'r cyfarwyddwr Justin Martin yn ailymuno yn dilyn eu ffenomen fyd-eang Prima Facie, gyda'r archwiliad llym hwn o famolaeth a gwrywdod modern.

Bydd NT Live: Inter Alia yn ymddangos ar sgrin Theatr Torch ar nos Iau 18 Medi am 7pm. Pris: £15.00 | £13.00 Cons | £8.50 O Dan 26. Ewch i'r wefan am fwy o fanylion www.torchtheatre.co.uk / ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar (01646) 695267 neu gliciwch yma.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.