Cymeriadau'n Darganfod yr Esgidiau Perffaith a'u Rhythm Unigryw

Mae Joon Dance yn dychwelyd i Theatr Torch fis Awst eleni gydag ail-adrodd modern o Cinderella lle mae pob cymeriad yn darganfod yr esgidiau perffaith a'u rhythm unigryw. Boed yn welingtons, esgidiau gwaith, sodlau uchel, neu esgidiau bale, mae'r sioe yn dathlu'r syniad y gall esgidiau ysbrydoli unigolion i ddawnsio. Ymunwch â Joon yn nawns Theatr Torch a dawnsio sut bynnag a lle bynnag y mae’r chwant yn codi!

Mae'r perfformiad hwn yn ffurfio diweddglo mawreddog wythnos o weithgarwch dawns gwych yn y Torch dan arweiniad Joon Dance. Gallwch ymuno â nhw ar gyfer eu hysgol haf flynyddol i bawb 6+ oed o ddydd Llun 18 Awst i ddydd Gwener 22 Awst.

Mae Ysgol Haf Dawns Joon wedi bod yn digwydd yn Theatr Torch ers 2009 ac mae ar agor i bawb. Gan ganolbwyntio ar gynnig mynediad fforddiadwy i brofiadau creadigol o ansawdd uchel dan arweiniad artistiaid dawns proffesiynol ar gyfer y gymuned yn Sir Benfro, mae Dawns Joon yn gweithio gyda thema wahanol bob blwyddyn, ac mae'n gysylltiedig â'i phrosiectau perfformio proffesiynol.

Caiff Cinder's Lost Their Dance Shoes yn cael ei pherfformio am 5pm ddydd Gwener 22 Awst. Tocynnau ar gyfer y sioe ddydd Gwener 22 Awst am 5pm: Oedolyn £10. Plentyn £8. Ewch i'r wefan am ragor o fanylion. www.torchtheatre.co.uk / ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar (01646) 695267 neu gliciwch yma. I archebu lle yn ysgol haf Joon Dance, ewch i www.joondance.co.uk/summerschools.

 

 

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.