Arddangosfa o Baentiadau Pastel gan yr Artist Lleol Deborah Thomas
Bydd Deborah Thomas, arlunydd hobi a aned a’i magu yn Aberdaugleddau, yn cynnal ei harddangosfa gelf unigol gyntaf erioed yn Theatr Torch fis Mehefin eleni. Ar ôl mynd i Ysgol Ganolog Aberdaugleddau, roedd hi wrth ei bodd â dosbarthiadau celf, ac yn wyth oed, cafodd ei derbyn yn fyfyrwraig mewn coleg celf yn Newton Abbott yn ystod ei dyddiau yn byw yn Nyfnaint.
Cafodd Deborah ei hysbyrdoli i dynnu lluniau gan Andy Capp, y stribed comig Prydeinig a grëwyd gan y cartwnydd Reg Smythe, sef y cymeriad a ymddangosodd ym mhapurau newydd y Daily Mirror a'r Sunday Mirror. Yn aml fe fyddai’n braslunio'r dyn cap fflat poblogaidd.
Fodd bynnag, ar ôl gadael yr ysgol, ni chododd Deborah bensil am oddeutu 20 mlynedd ac ni roddodd ail feddwl i gelf.
“Ar ôl cyfnod hir i ffwrdd o beintio, codais bensil a phenderfynais dynnu llun. Ceisiais weithio gyda sialc pastel a phensiliau ac roeddwn i wrth fy modd yn gweithio gyda’r cyfryngau hyn. Rwy’n peintio fel hobi ac wedi dysgu fy hun. Rwy’n dwlu ar beintio a phaentio’n fanwl iawn,” meddai Deborah sy’n gofalu am Diana, ei mam oedrannus.
“Dydw i ddim yn peintio cymaint ag yr hoffwn i ond pan fydda i’n peintio, rydw i’n cael fy nghludo i fy myd bach fy hun. Mae fel dihangfa ac mae angen i mi fod yn yr awyrgylch hwnnw i beintio. Mae fy nheulu cyfan yn gefnogol iawn i’m hobi ac mae gan fy mab, Gregory yn Awstralia, un o fy mhaentiadau gydag e, sef pen llew,” eglurodd Deborah.
Ei phaentiad cyntaf ar ôl cyfnod hir i ffwrdd o'r blwch paent oedd yr actores Americanaidd, Marilyn Monroe. Mae paentiadau fel y Ffidil, Tylluanod Gwyn Celtaidd, Taran Gwyn, Eryr Moel, Hebog Gwyn Gwlad yr Iâ, ci Beagle a Mam a Babi Llwynog bellach yn ychwanegu at ei chasgliad a gellir eu gweld yn y Torch yn ystod mis Mehefin.
“Mae cael yr arddangosfa hon yn Theatr Torch yn golygu llawer i mi. Rydw i’n gyffrous, ond mae yna ychydig o orbryder hefyd, ond ar y cyfan rydw i wir yn gyffrous. Rydw i bob amser am wella fy hun a fi yw fy meirniad gwaethaf fy hun ond rydw i’n gwneud y gorau y gallaf,” meddai Deborah i gloi.
Gellir gweld Arddangosfa o Baentiadau Pastel gan Deborah Thomas yn Oriel Joanna Field yn Theatr Torch fis Mehefin. Mae'r oriel ar agor yn ystod oriau'r Swyddfa Docynnau. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan y Theatr ar torchtheatre.co.uk neu gysylltwch â'r Swyddfa Docynnau ar 01646 695267.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.