Y Tu Ôl i'r Llenni gyda'r Dylunydd Set a Gwisgoedd Kevin Jenkins

Wrth i’r disgwyl gynyddu ar gyfer noson agoriadol pantomeim Rapunzel sydd ar ddod yn Theatr Torch, fe wnaethon ni siarad â’r dylunydd set a gwisgoedd Kevin Jenkins, y grym creadigol y tu ôl i fyd bywiog y cynhyrchiad eleni.

Dechreuodd taith Kevin i fyd dylunio theatr fel athro Dylunio a Thechnoleg ysgol uwchradd, gyda chariad dwfn at gynyrchiadau ysgol. “Roeddwn i bob amser yn ymwneud â dramâu’r ysgol a phenderfynais mai dyna oeddwn i eisiau ei wneud yn llawnamser. Es ymlaen i astudio Cwrs Dylunio Theatr Motley a newid fy llwybr gyrfa yn llwyr”, meddai Kevin. Ers hynny, mae Kevin wedi mynd ymlaen i weithio ar amrywiaeth o ddyluniadau genre gwahanol ond mae’n cyfaddef bod pantomeim a sioeau teuluol yn dal lle arbennig yn ei galon, “gallwch chi fod yn feiddgar, yn hael ac yn llawn calon ar yr un pryd”, meddai.

Mae Kevin yn disgrifio sut mae'r broses ddylunio oll yn dechrau gyda darllen y sgript, cynhyrchu syniadau cychwynnol ac yna cydweithio â'r cyfarwyddwr Chelsey Gillard ynghylch themâu a darnau o hunaniaeth Sir Benfro y dylid eu plethu i'r ddrama. Yna o frasluniau, i fodelau digidol 3D, mae Kevin yn datgan ei fod 'yn broses fireinio gyson, ac yn cydbwyso holl hwyl y panto ag iaith weledol gydlynol, hyd at y perfformiad agoriadol.” Mae Kevin yn disgrifio’r set eleni fel un chwareus, arfordirol a lliwgar, sy’n dal ysbryd y sioe eleni’n berffaith.

Yr hyn mae Kevin yn ei garu fwyaf am weithio yn Theatr Torch yw'r cydweithio agos rhwng y tîm dylunio ac adrannau eraill. “Mae Chelsey a minnau wedi bod yn sgwrsio ers y syniadau cynharaf i adrodd y straeon gweledol yn iawn” meddai. “Mae Panto yn fwystfil mawr llawen sydd ond yn gweithio pan fydd pawb yn tynnu at ei gilydd.” O reoli llwyfan, i ddylunio goleuadau, i'r gweithdy, mae pawb yn chwarae rhan hanfodol wrth ddod â'r cynhyrchiad hwn yn fyw.

Pan ofynnwyd iddo beth yw cyfrinach y wisg berffaith, fwy na bywyd, mae Kevin yn datgelu “dylai gwisg dda ar y Fonesig gael pawb i chwerthin pan gaiff ei gweld yn gyntaf - po fwyaf y chwerthin, y mwyaf perffaith ydyw!” Mewn gwirionedd, dylunio gwisgoedd y Fonesig yw un o’r rhannau mwyaf pleserus am y broses gyfan yn ôl Kevin. “Eleni maen nhw wedi cael eu hysbrydoli gan ei swydd hi, yr Avengers, twristiaid o Sir Benfro, Stranger Things a thecawê nos Wener.”

O ran gwisgoedd eraill, mae sicrhau bod y cymeriadau’n ymddangos yn hygyrch ac yn berthnasol trwy eu gwisgoedd yn bwysig iawn i Kevin. “Mae Chelsey wedi rhoi tro newydd ar y fersiwn hon o Rapunzel, felly mae’n hwyl gallu gwneud yr un peth gyda’r wisg hefyd,” meddai. “Nid rhyw dywysoges chwedlonol yw ein Rapunzel ni; gobeithio ei bod hi’n rhywun y gall y plant ei gweld ynddynt eu hunain. I’r Tywysog, mae’r esgidiau Nike yn dod â rhywfaint o swagger cyfoes, yn hytrach na gwylio ffigur chwedlonol pell.”

Mae Kevin yn ystyried y dyluniad fel un rhan yn unig o'r profiad pantomeim mwy, cyffrous. “Mae hyn i gyd ar gyfer y gynulleidfa, yn enwedig y teuluoedd sy'n dychwelyd flwyddyn ar ôl blwyddyn am noson allan arbennig.” Siaradodd am bwysigrwydd ac effaith barhaol y sioeau hyn, “Rwy'n ymwybodol iawn mai dyma brofiad cyntaf llawer o blant o'r theatr, ac os yw fy nyluniad yn rhan fach o gyflwyno rhywun i fyd y theatr, beth all fod yn fwy cyffrous na hynny.”

Pan wnaethom ofynnon i Kevin ble byddai’n dewis byw pe bai’n gallu aros yn unrhyw un o’r setiau o Rapunzel, wnaeth e ddim oedi: “Y goleudy, heb os. Mae’n gynnes ac yn dawel tra bod y tywydd yn gyfnewidiol y tu allan. Dw i wrth fy modd â’r syniad o fod wedi’i guddio wrth ymyl y môr gyda’r golau’n troi uwchben a mwg o siocled poeth yn fy llaw!”

Pa leoliad fyddech chi'n ei ddewis? Dewch draw a rhowch wybod i ni!

Bydd Rapunzel yn ymddangos ar lwyfan Theatr Torch o ddydd Sadwrn 06 Rhagfyr i ddydd Sul 28 Rhagfyr. Pris: £24.50 | £20.00 Gostyngiadau | £78.00 Perfformiad Teuluol mewn Amgylchedd Hamddenol - dydd Sadwrn 13 Rhagfyr am 2pm. Perfformiad Dehongli Iaith Arwyddion Prydain (Liz May) - dydd Mawrth 16 Rhagfyr 6pm. Cliciwch yma.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.