Byddwch ofnus! Byddwch ofnus iawn wrth i Fam Gothel gyrraedd llwyfan Theatr Torch

Byddwch ofnus! Byddwch ofnus iawn wrth i Fam Gothel gyrraedd llwyfan Theatr Torch yn ddramatig iawn yn ystod yr ŵyl hon. Mae'r wrach fôr frawychus yn gwneud ei gorau i gadw Rapunzel yn y goleudy, ond a fydd hi'n llwyddo? Aeth Anwen i fyny'r grisiau troellog i ddarganfod rhagor.

 

Pwy yw Mam Gothel? A fydd cynulleidfaoedd yn ei charu neu'n ei chasáu?

Mae hi'n Wrach y Môr sy'n esgus mai hi yw Mam Rapunzel. Mae hi'n defnyddio'r pŵer yn ei gwallt hudolus i'w chadw'n ifanc ac yn hollol syfrdanol. 

 

Disgrifia Mam Gothel mewn tri gair.

Cyfrwys, cas ac wedi'i gwisgo'n dda

 

Wyt ti’n mwynhau chwarae'r un drwg?

Ydw, yn fawr iawn. Yn gyntaf - mae gen i wialen ddrwg!!!! Yn ail - gall pobl fwio i'm hwyneb yn lle y tu ôl i'm cefn fel arfer….

 

A yw'n fwy o her chwarae cymeriad hoffus neu gymeriad annymunol?

Mae gan bob un ei heriau ei hun. Mae chwarae rhan y dihiryn yn hwyl mawr. Mae'n ymwneud â dod o hyd i'r eiliadau chwarae i wneud eich hun yn hynod annymunol, falle?

 

Dyweda ychydig wrthym am rolau eraill rwyt tii wedi'u chwarae yn y Torch a pha un sydd wedi bod yr un mwyaf heriol a pham?

Cefais fy newis i fod yn llygoden fawr mewn panto pan oeddwn i'n blentyn. Dydw i dal ddim wedi dod dros y peth.


A ddylai cynulleidfaoedd gefnogi neu floeddio pan fyddan nhw'n gweld Mam Gothel? 

Hisio a Bwio… a thaflu eitemau gwerthfawr.

 

Beth yw'r peth mwyaf caredig am Fam Gothel?

Ei cholur. 

 

Pa mor bwysig yw hi i blant sylweddoli bod da a drwg yn y byd a bod da bob amser yn ennill y dydd?

Mae daioni bob amser yn gorchfygu…. Yn enwedig pan fydd gŵ a slosh i'w taflu!

Gellir gweld Rapunzel, antur tymor y Nadolig ar lwyfan Theatr Torch nawr tan ddydd Sul 28 Rhagfyr. Pris tocyn: £24.50 | £20.00 Gostyngiadau | £78.00 Teulu. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Theatr Torch www.torchtheatre.co.uk neu ffoniwch y Swddfa Docynnau ar (01646) 695267.

 

 

Llun gan: Chris Lloyd

 

 

 

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.