“Ni Moyn Sglods!”

Yn dilyn llwyddiant anhygoel The Wind In The Willows y llynedd, mae aelodau Theatr Ieuenctid y Torch yn dychwelyd gydag antur gomedi gyffrous sy'n siŵr o wneud i'ch noson fynd yn wych! Ym mis Gorffennaf eleni, bydd y bobl ifanc talentog rhwng saith a 18 oed o bob cwr o Sir Benfro yn synnu aelodau'r gynulleidfa gyda ... The Bangers and Chips Explosion.

Wedi'i haddasu o'r llyfr llawn hwyl gan yr athro a drodd yn awdur, Brough Girling, mae'r ddrama'n dilyn y digwyddiadau yn Ysgol Gynradd St Gertrude. Mae hon yn ysgol sydd mor ddi-nod ag y gallwch chi ddod a rei thraws. Dyma'r math o ysgol y byddech chi'n cerdded heibio iddi bob dydd a pheidio â sylwi hyd yn oed. Does dim byd diddorol byth yn digwydd yno...nes i'r plant fynd ar streic i gael sglods gyda'u cinio. Yn daer i atal gwrthryfel llwyr, mae'r Pennaeth anffodus yn rhoi hysbyseb swydd yn y papur newydd lleol, ac mae rhai cogyddion anarferol yn dechrau yn eu swyddi, ac yn gynnau ffiws na all ond un arwr annhebygol ei ddiffodd!

Pan gaiff dau gogydd newydd eu penodi a dechrau gweini sglods i ginio bob dydd, mae Billy Baxter a'i ffrindiau, sy'n gaeth i sglodion, prin yn gallu credu eu lwc. Ond yn y gegin mae cynllwyn sinistr yn berwi. A fydd y plant yn darganfod mewn pryd? A fydd arwr annhebygol yn dod i'r amlwg i achub yr ysgol?

“Rydyn ni mor gyffrous i ddod â’r sioe hon i’r Torch!’ meddai Tim Howe, cyfarwyddwr y sioe ac Uwch Reolwr Ieuenctid a Chymuned yn y Torch.

“Darllenais y llyfr hwn yn gyntaf pan oeddwn i yr un oed â'r perfformwyr ieuengaf ac rwyf wedi ei garu byth ers hynny. Yn llawn cymeriadau doniol, mwy na bywyd, antur wallgof, a digonedd o chwerthin, mae gan y llyfr rywbeth i’n holl bobl ifanc roi eu sgiliau actio iddo! Rydym yn hynod ffodus bod Brough wedi rhoi caniatâd i ni ddod â’i stori’n fyw ac rydym yn gwybod y bydd ein cynulleidfaoedd wrth ei bodd â hi hefyd!” ychwanegodd Tim.

Bydd y Bangers and Chips Explosion yn cael ei pherfformio ar Lwyfan y Theatr ddydd Llun 21 Gorffennaf, dydd Mawrth 22 Gorffennaf a dydd Mercher 23 Gorffennaf am 6.30pm. Tocynnau yn £10 i oedolion ac £8 consesiynau. Ewch i'r wefan am fwy o fanylion. www.torchtheatre.co.uk / ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar (01646) 695267 neu gliciwch yma

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.