Nia yn Mwynhau ei Rôl fel Dirprwy Reolwr Llwyfan

O opera i ddawns a phantomeimiau i sioeau cerdd, mae Nia James o Drewyddel ger Aberteifi wedi gwneud y cyfan. Y mis Rhagfyr hwn hi yw Dirprwy Reolwr Llwyfan Theatr Torch ar gyfer ei phantomeim Nadoligaidd, Rapunzel, ac mae hi'n mwynhau heriau'r pantomeim doniol hwn. 

Ar ôl astudio gradd Meistr mewn Rheoli Llwyfan a Digwyddiadau yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru Caerdydd, mae cyn-ddisgybl Ysgol y Preseli yn mwynhau gweithio gyda chwmnïau yng Nghymru fel Theatr Torch yn Aberdaugleddau.

“Mae’r cast a’r tîm creadigol yn y Torch yn anhygoel i weithio gyda nhw. Mae rhai pantomeimiau’n cynnwys enwau mawr ac enwogion, ond mae’r Torch yn croesawu actorion lleol, proffesiynol, talent crai, sydd oll yn bleser i weithio gyda nhw,” meddai Nia sydd wedi dychwelyd i’r Torch eleni fel Dirprwy Reolwr Llwyfan ar ôl gweithio ar bantomeim Jack and the Beanstalk fel Rheolwr Llwyfan yn 2024.

Mae Nia wedi gweithio ar draws y DU ac roedd yn actores yn serennu yn y sioe ‘Mewn Cymeriad’ yn seiliedig ar y nofelau gan T.Llew Jones a ‘Mewn Cyfyng Cyngor’ gyda Hansh. Yna tarodd covid a bu’n rhaid i Nia wneud rhai dewisiadau bywyd a phenderfynu cymryd yr awenau fel Rheolwr Llwyfan gan weithio gyda chwmnïau theatr fel Theatr na nÓg, Music Theatre Wales, London Palladium, Theatr Cymru a’r Urdd.

“Mae bod yn Ddirprwy Reolwr Llwyfan yn wych ac yn bendant yn rôl dw i'n ei ffefri. Rwy’n gofalu am y cast, yn rhedeg ymarferion, weithiau’n gweithredu’r goleuadau a’r sain, ac yn bennaf yn galw agweddau technegol y sioe. Mae’n llawer o hwyl a ‘da chi byth yn gwybod sut mae’r sioe yn mynd i fynd. Mae pethau’n mynd o chwith a bydd yr actorion yn cynnwys jôcs doniol. Ar ddiwedd y dydd mae’r cyfan yn dibynnu ar ymateb y gynulleidfa. Dwe fe wnaethon ni groesawu bron i 300 o blant ysgol a oedd i gyd yn egnïol iawn ac yn sgrechian a heddiw roedd gennym ni gynulleidfa fwy tawel. Nid oes dau berfformiad byth yr un peth,” eglurodd Nia.

Gellir gweld Rapunzel, yr antur sy’n codi gwallt, ar lwyfan Theatr Torch o nawr tan ddydd Sul 28 Rhagfyr. Pris tocyn: £24.50 | £20.00 Consesiynau | £78.00 Teulu. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Theatr Torch www.torchtheatre.co.uk neu ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar (01646) 695267.

 

 

 

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.