Galwad Agored am Gyflwyniadau Celf - Under Milk Wood

Ydych chi erioed wedi dymuno ymateb i ddrama gyda'ch geiriau, delweddau neu syniadau eich hun? Mae Theatr y Torch, Aberdaugleddau ac Oriel VC, Hwlffordd yn agor eu drysau ac yn eich gwahodd i mewn wrth iddynt gyflwyno Verse & Visuals a ysbrydolwyd gan Under Milk Wood gan Dylan Thomas, sy'n digwydd ochr yn ochr â chynhyrchiad teithiol Theatr Clwyd o Under Milk Wood a ddaw i Theatr Torch fis Ebrill.

Mae Theatr y Torch ac Oriel VC yn gwahodd artistiaid, beirdd, awduron, ac unrhyw un sy'n chwilfrydig am greadigrwydd i ymuno. Croesewir cyflwyniadau o gelf weledol, barddoniaeth, ysgrifennu, ffotograffiaeth, darlunio, cyfryngau cymysg, ac ymatebion creadigol eraill. Efallai y bydd pobl yn cael eu denu at Freuddwydion Captain Cat, lleoliadau ffilmio 1972 yn y Dref Isaf, Abergwaun, neu efallai y bydd rhai'n cymryd ymateb mwy personol wedi'i ysbrydoli gan waith Dylan Thomas, un o feirdd mwyaf dylanwadol yr 20fed ganrif. Bydd yr arddangosfa'n cynnig gwahanol ffyrdd o brofi'r ddrama, nid yn unig trwy ei gwylio, ond trwy eistedd gyda hi, ymateb iddi, a thynnu rhywbeth eich hun ohoni.

Bydd gwaith dethol yn cael ei arddangos naill ai yn Oriel Joanna Field, yn Theatr  Torch neu yn Oriel VC ar Stryd Fawr Hwlffordd, gan fynd â'r arddangosfa y tu hwnt i adeilad y theatr ac i ganol y dref, lle gall rhagor o bobl ddod ar ei draws fel rhan o fywyd bob dydd.

Dywedodd Chelsey Gillard, Prif Swyddog Gweithredol Dros Dro a Chyfarwyddwr Artistig Theatr Torch:

“Rydym mor gyffrous i fod yn cydweithio â’r gwych Oriel VC i archwilio’r un stori drwy sawl ffurf gelf. Mae Under Milk Wood yn eicon Cymreig a bydd y cynhyrchiad hwn ohono yn ddychmygus, yn ddoniol ac yn fwy na dim ond ychydig bach yn ddrygionus! Wrth ei wraidd mae’n stori am gymuned, felly mae’r prosiect hwn yn estyniad o hynny, ac yn eich croesawu i fod yn rhan o’r gymuned greadigol hon.”

Ers mis Ionawr, mae gweithdai agored wedi bod yn digwydd yn Oriel VC, yn archwilio Under Milk Wood drwy gelf a barddoniaeth. Dan arweiniad Barry John, MBE, Jayne Blythe-Mason ac Angharad Tudor, mae'r sesiynau'n hamddenol, yn gyfeillgar, ac yn agored i bawb. Fe'u cynhelir yn Oriel VC, Stryd Fawr, Hwlffordd rhwng 11 a 4 pm ddydd Llun a dydd Mercher hyd at y dyddiad cyflwyno ar 11 Mawrth. Nid oes angen i bobl fod wedi mynd i weithdy i gyflwyno eu gwaith, gellir cyflwyno gwaith ym mha bynnag ffordd.

Mae'r arddangosfa yma hefyd yn nodi perthynas greadigol sy'n datblygu rhwng Oriel VC a Theatr Torch - chwilfrydedd a rennir ynghylch sut y gall celfyddyd weledol a theatr gyfarfod, gorgyffwrdd, a thyfu gyda'i gilydd dros amser.

Ychwanegodd Barry John, MBE, o Oriel VC: “Mae theatr yn fan cychwyn mor gyfoethog ar gyfer celfyddyd weledol. Mae'n llawn lleisiau, delweddau, rhythm ac emosiwn, ac mae'n rhoi rhywbeth i chi ymateb iddo yn hytrach na rhywbeth i'w efelychu. Mae trosi hynny'n waith gweledol gyda chefnogaeth Theatr Torch wedi bod yn ysbrydoledig iawn."

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno celf yw dydd Mercher 11 Mawrth. Sganiwch y cod QR ar y llun i gael rhagor o wybodaeth.

Gellir gweld Under Milk Wood cynhyrchiad Theatr Clwyd / Craidd ar lwyfan Theatr  Torch o ddydd Iau 16 Ebrill i ddydd Sadwrn 25 Ebrill. Prisiau tocynnau o £15. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Theatr Torch www.torchtheatre.co.uk / Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar (01646) 695267 neu gliciwch yma.

Llun: Dylan Maddocks

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.