Paratowch i gael profiad anhygoel yn 2025!
Yn galw ar holl gefnogwyr Queen! Yn galw ar holl gefnogwyr bandiau roc Prydeinig! Yn galw ar holl gefnogwyr roc pop! Bydd Now I'm Here – band Teyrnged Queen ar lwyfan Theatr Torch fis Mehefin ac mae tocynnau'n gwerthu ar ras!
Yn dilyn y daith boblogaidd yn 2024 a werthodd bob tocyn, mae "Now I'm Here" Teyrnged Queen yn ôl unwaith eto dan arweiniad Josh Henderson, lleisydd rhyngwladol o fri am ei bortread cyffrous o Freddie Mercury a'i lais tenor roc pwerus.
Mae'r band teyrnged sy'n seiliedig ar y band roc Prydeinig a ffurfiwyd yn Llundain ym 1970 gan Freddie Mercury (prif lais, piano), Brian May (gitâr, llais), a Roger Taylor (drymiau, llais), a welodd John Deacon yn ymuno’n ddiweddarach, yn daith TRWY'R DEGAWDAU gyda'r band byw deinamig sy'n dal hanfod sain chwedlonol Queen. Mae "Now I'm Here" wedi mireinio eu crefft i ddarparu profiad Queen bythgofiadwy, ynghyd â delweddau syfrdanol a cherddoriaeth ddi-fai.
Dewch i lawr i Theatr Torch am noson yn llawn caneuon eiconig fel I Want It All, Bohemian Rhapsody, We Are The Champions, Radio GaGa, a Who Wants To Live Forever, wrth i chi ganu gyda’r band a’ch trochi eich hun yn hud oesol Queen.
Mae tocynnau ar gyfer Now I’m Here ar nos Sadwrn 28 Mehefin am 7.30pm yn Theatr Torch yn £26.50. Ewch i’n gwefan am ragor o fanylion www.torchtheatre.co.uk / ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar (01646) 695267 neu gliciwch yma.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.