Amser Soch Soch yn y Torch!

Dewch i fwynhau amser gwych yn Theatr Torch gyda phrofiad sinema o Peppa Meets the Baby. Ymunwch â Peppa Pig a'i theulu yn y sinema wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer eu hantur fwyaf eto: croesawu BABI newydd! Pa mor wych ydy hynny?!

Mae'n amser dathlu dechrau cyfnod newydd cyffrous o Peppa Pig yn y profiad sgrin fawr arbennig hwn. Gyda 10 pennod newydd sbon, chwe chân newydd a fideos cerddoriaeth y gall eich rhai bach ddawnsio a chanu iddyn nhw ynghyd â Peppa a'i theulu a'i ffrindiau, beth sydd ddim i’w hoffi?

Mae Peppa Meets the Baby yn brofiad sinema cyntaf delfrydol i blant a'u teuluoedd. Ymunwch â Peppa a George wrth iddyn nhw gwrdd â'u brawd neu chwaer newydd am y tro cyntaf.

Does dim amser gwell i ddechrau adnewyddu tŷ yn llwyr, siopa am gar newydd a chreu atgofion arbennig gyda'n gilydd. Dathlwch ddechrau cyfnod newydd cyffrous o Peppa Pig gydag awr o chwerthin, dagrau a llwyth o eiliadau twymgalon.

“Rydyn ni wrth ein bodd gyda Peppa Pig. Mae hi’n ffefryn pendant yma yn y Torch,” meddai Anwen Francis o Dîm Marchnata’r Torch. Ychwanegodd: “Mae’r mochyn bach hyfryd ac anturus bob amser yn gwneud i ni wenu, ac allwn ni ddim aros i’w gweld hi’n cychwyn ar ei hanturiaethau newydd gyda’i ffrindiau a’i theulu moch bach.”

Gellir gweld Peppa Meets the Baby Cinema Experience ar sgrin sinema Theatr Torch ddydd Gwener 30 Mai am 12.30pm, dydd Sadwrn 31 Mai am 12.30pm a dydd Sul 1 Mehefin am 12.30pm. Prisiau tocynnau sinema ar gyfer y Teulu: £24; Oedolyn: £7.50. Gostyngiadau: £7 a Dan 16: £6. Ewch i'r wefan am fwy o fanylion. www.torchtheatre.co.uk / ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar (01646) 695267 neu gliciwch yma.

 

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.