PORT TALBOT GOTTA BANKSY YN ARCHWILIO EFFAITH GWAITH CELF BANKSY AR Y DREF

Gellir gweld drama newydd rymus a thosturiol yn dathlu celf stryd, pŵer pobl a chadernid cymunedau yn Theatr Torch fis Mai mewn cyd-gynhyrchiad Theatr y Sherman a Theatr3 o Port Talbot Gotta Banksy. Bydd y sioe yn archwilio effaith murlun enwog Banksy, Season’s Greetings, a ymddangosodd ar garej gweithiwr dur ym Mhort Talbot yn 2018, ar y gymuned.

Rhagfyr 2018. Mae Banksy yn rhoi anrheg Nadolig unigryw i Bort Talbot gan ei wneud yn destun trafod rhyngwladol pan fydd un o'i furluniau yn ymddangos ar garej gweithiwr dur lleol. 2024. Mae Port Talbot yn y newyddion unwaith eto pan mae diwedd cynhyrchu dur drwy ffwrnais chwyth, diwydiant sydd mor hanfodol i’r dref, yn creu cyfnod newydd o ansicrwydd.

Mae’r sgript wedi’i saernïo o dros 100 awr o gyfweliadau â phobl leol, a gynhaliwyd dros chwe blynedd. Mae’n adrodd stori anhygoel y ‘Port Talbot Banksy’ yn lleisiau dilys y gymuned, wedi’u bwydo’n fyw i’r actorion trwy glustffonau.

Ysgrifennwyd Port Talbot Gotta Banksy gan Paul Jenkins a Tracy Harris, Cyfarwyddwyr Artistig Theatr3, ac fe’i cyfarwyddwyd gan Paul. Wrth gyhoeddi manylion y ddrama, dywedodd Paul: “Dyma fydd y tro cyntaf i stori effaith Banksy ar gymuned gael ei hadrodd ar y llwyfan, ac mae gan y bobl y casglwyd eu straeon rhyfeddol ddigon i’w ddweud. Mae wedi bod yn broses eithriadol sydd wedi arwain at sgript llawn dicter, gwytnwch anhygoel a hiwmor mawr.”

Dywedodd Julia Barry, Prif Weithredwr Theatr y Sherman: “Mae hon yn stori wir yn ne Cymru sy'n siarad â'r byd; un a wnaeth benawdau byd-eang, a ddatblygodd mewn tref gyda chyrhaeddiad artistig enfawr ac y mae lleisiau ei chymuned yn mynnu cael eu clywed. Rydym yn falch iawn o ddod â’r ddrama newydd hon i gynulleidfaoedd yng Nghymru.”

Mae’r cast yn cynnwys Jalisa Andrews, Matthew Bulgo, Holly Carpenter, Ioan Hefin, Simon Nehan a Kerry Joy Stewart.

Gan berfformio ar draws Cymru, bydd Port Talbot Gotta Banksy yn cael ei pherfformio yn Theatr Torch ar nos Fawrth 20 Mai. Tocynnau yn £22 / £20 consesiwn / £15 o dan 26. Ewch i’r wefan am fwy o fanylion www.torchtheater.co.uk / ffonwich y Swyddfa Docynnau ar (01646) 695267 neu gliciwch yma.

 

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.