Mae Puss wedi colli ei thrysor ym mhyllau Mynyddoedd y Preseli!

Rydym yn cyfrif y diwrnodau, ac ond wythnos sydd ar ôl i bobl ifanc Sir Benfro ddylunio trysor ar gyfer pantomeim Nadoligaidd Theatr Torch eleni – Puss in Boots! Mae Puss wedi colli ei thrysor yn ddwfn ym mhyllau Mynyddoedd y Preseli yma yn y sir, ac mae angen eich cymorth i ddod o hyd i’r deunydd gwerthfawr. Felly, pam oedi? Dechreuwch ddylunio er mwyn i’r sioe fynd yn ei blaen!

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Theatr y Torch wedi cynnal cystadleuaeth ddylunio lle gofynnwyd i blant ysgol ddylunio gwrthrychau amrywiol ar gyfer llwyfan y pantomeim – o wisg ddawns Belle i’r Crocodeil Aur anferth, a’r *Aquantis* gyda’i tentaclau hir. 

“Rydym eisoes wedi derbyn nifer fawr o geisiadau gan ysgolion ac unigolion, ac rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at dderbyn eich cais chi. Gall y trysor fod wedi’i wneud o unrhyw wrthrych, ac o unrhyw siâp a maint. Gall fod yn chwareus neu’n ddifrifol, yn ddisglair neu’n pefrio â gliter – chi sydd i benderfynu. Rhowch ryddid i’ch dychymyg – sgwter wedi’i wneud o aur pur, efallai, neu iPad wedi’i wneud o rwbïau; mae’r posibiliadau’n ddiddiwedd,” meddai Tim Howe, Uwch Reolwr Ieuenctid a Chymuned yn Theatr Torch.

Gall y dyluniadau a gyflwynir fod mewn unrhyw fformat – gallent fod yn golâd o ddelweddau a gweadau, darnau wedi’u torri o gylchgronau, neu stribedi o ddeunydd; gallent gael eu creu ar gyfrifiadur neu eu darlunio â llaw.

Mae sawl categori oedran: plant dan 5 oed, 5–10 oed, ac 11–18 oed. Dewisir enillydd o bob categori, a bydd dyluniad yr enillydd cyffredinol yn cael ei droi’n wrthrych go iawn yn y pantomeim. Bydd yr holl ddyluniadau yn cael eu harddangos yn ein horiel yn ystod mis Rhagfyr.

Dylai’r holl ddelweddau fod ar bapur maint A4 (dim mwy na hynny), a dylid cynnwys yr wybodaeth ganlynol ar y cefn: enw’r dylunydd, yr ysgol/coleg, a manylion cyswllt. 

Anfonwch eich ceisiadau at: Puss in Boots – Treasure Hunt, Theatr Torch, Heol Sant Pedr, Aberdaugleddau, SA73 2BU erbyn dydd Sadwrn 24 Hydref.

Gellir gweld Puss in Boots yn Theatr Torch o ddydd Sadwrn 5 Rhagfyr hyd at ddydd Sadwrn 2 Ionawr. Perfformiad mewn Amgylchedd Ymlaciol: 19 Rhagfyr am 2pm. Perfformiad gyda dehonglydd BSL: dydd Mawrth 22 Rhagfyr am 6pm. Archebwch eich tocynnau drwy'r wefan yn torchtheatre.co.uk / Swyddfa Docynnau: 01646 695267.

 

CYLCHLYTHYR THEATR TORCH

Yn y Sbotolau!

Ydych chi am fod y cyntaf i glywed am berfformiadau sydd ar ddod, cynigion tocynnau unigryw, a'r digwyddiadau y tu ôl i'r llenni yn Theatr Torch? Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a gadewch i'r ddrama ddod atoch chi.