Pobl ifanc Sir Benfro yn creu argraff ar lwyfan y Torch

Unwaith eto, rhagorodd pobl ifanc Sir Benfro ar lwyfan Theatr Torch gyda’u sioe haf o Robin Hood: The Legend of the Black Knight yn cael ei chanmol yn ‘llwyddiant ysgubol’ gan aelodau’r gynulleidfa.

Aeth dros 50 o bobl ifanc o’r sir ar y llwyfan yn yr hyn a ddisgrifiwyd fel “gwych” a “mor greadigol” gan Freya, un o adolygwyr ieuengaf Theatr Torch, a ychwanegodd ei bod hi’n “dymuno ei gweld eto”.

Dangoswyd y fersiwn newydd sbon hon o'r stori glasurol ar lwyfan Theatr Torch am dair noson o anturiaethau cyffrous, ac roedd yn cynnwys holl elfennau'r stori rydyn ni'n eu hadnabod ac yn eu caru. O Robin Hood yn dwyn oddi wrth y cyfoethog ac yn rhoi i'r tlodion, i Siryf Nottingham yn gwneud dim byd da, a'r Forwyn Marian yn arwres egnïol sydd ei hangen ar bob un ohonom.

Cefnogwyd y cynhyrchiad yn bennaf gan Borthladd Aberdaugleddau ac Ymddiriedolaeth Elusennol Ingles, yn ogystal â llu o fusnesau bach lleol annibynnol.

Dywedodd Tim Howe, Cyfarwyddwr y sioe: “Am dair noson wych! Am sioe! Ac am bobl ifanc anhygoel sydd gennym ni yma yn Sir Benfro sydd oll wedi gweithio mor galed ar y llwyfan a thu ôl i’r llenni i roi profiad theatr gwych i aelodau’r gynulleidfa! Rwy’n hynod falch o bob aelod o Theatr Ieuenctid y Torch.”

Ychwanegodd: “Gyda’n gilydd fe wnaethom greu cynhyrchiad yr oedden ni’n gwybod y byddai’n rhoi eiliad ystyrlon ‘yn y chwyddwydr’ i bawb oedd yn rhan ohono. O eiliadau llawn cyffro ensemble mawr, i olygfeydd tawelach oedd yn cael eu hysgogi gan gymeriadau, roedd lle i gyd-fynd â sgiliau pawb. Nod Theatr Ieuenctid y Torch yw nid yn unig datblygu sgiliau actio’r bobl ifanc, ond hefyd eu hyder, eu gwaith tîm, yn ogystal â’u dychymyg, ac mae cynyrchiadau ar raddfa fawr fel hyn yn gyfle perffaith i wneud hynny!”

Mae Theatr Ieuenctid y Torch ar agor i unrhyw un o flwyddyn 3 yr ysgol hyd at 18 oed ac mae'n cael ei chynnal yn ystod tymor yr ysgol. Bydd yn dychwelyd fis Medi ymlaen gyda blwyddyn arall lawn o weithgareddau. Os ydych chi am gymryd rhan, cysylltwch â tim@torchtheatre.co.uk i gael eich enw ar y rhestr e-bost neu cadwch lygad ar gyfryngau cymdeithasol Theatr Torch am fanylion ar sut mae cofrestru.

Llun: Chris Lloyd

CYLCHLYTHYR THEATR TORCH

Yn y Sbotolau!

Ydych chi am fod y cyntaf i glywed am berfformiadau sydd ar ddod, cynigion tocynnau unigryw, a'r digwyddiadau y tu ôl i'r llenni yn Theatr Torch? Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a gadewch i'r ddrama ddod atoch chi.