RHYWBETH AT DDANT PAWB YN YSGOLION HAF Y TORCH
Mae hi'n amser yna o'r flwyddyn eto! Efallai eich bod yn cynllunio gwyliau haf egsotig, neu arhosiad yn nes at adref, beth bynnag yw eich dewis, mae tîm Theatr Torch yn paratoi ar gyfer ei Hysgolion Haf hynod boblogaidd sy'n sicr o lenwi eich mis Awst gyda gweithgareddau cyffrous a chreu atgofion a fydd yn para am oes.
Dros y blynyddoedd mae Theatr Torch wedi ennill enw da am ddarparu gweithgareddau gwyliau haf eithriadol i blant a phobl ifanc. Nawr, gyda'i Hysgol i Oedolion, mae'r Torch yn darparu ar gyfer pawb, saith oed a throsodd.
“Dewch i ymuno â’r sesiynau creadigol llawn hwyl sy’n cynnwys perfformio yn ein theatr stiwdio ar gyfer teulu a ffrindiau. Mae gennym ni gyfleoedd i oedolion a phlant gael eu hysbrydoli ac i fod yn artistig. Gyda pherygl yng ngwlad dychymyg, cynnal drama mewn wythnos, ac ystod eang o sgiliau ysgrifennu, perfformio a chyfarwyddo yn cael eu harchwilio, rydym yn gwybod bod rhywbeth at ddant pawb.!” meddai Tim Howe, Uwch Reolwr Ieuenctid a Chymuned yn y Torch sy'n creu ac yn rhedeg yr Ysgolion Haf.
Ychwanegodd: “Dan arweiniad gweithwyr proffesiynol sydd ag enw da ledled y byd a hyfforddiant yn yr ysgolion drama gorau, mae ein hysgolion haf yn agored i bawb. Nid oes angen clyweliad ac nid oes rhaid i chi hyd yn oed gael profiad blaenorol. Ein nod yw gwneud addasiadau rhesymol i’n darpariaeth er mwyn sicrhau bod pob gweithgaredd yn darparu’r ffit orau i bawb, fel y gallwch wneud y gorau o’ch profiadau.”
Mae’r Ysgolion Haf yn cynnwys y canlynol:
Dramatic Detectives ar gyfer Blynyddoedd 3 i 6 (oed 7 – 11)
Mae cyfres o droseddau rhyfedd wedi bod yn digwydd yng ngwlad dychymyg. Ond beth ydyn nhw, pwy sydd wedi bod yn torri’r gyfraith, ac a fyddwn ni’n gallu eu hatal mewn amser? Trwy chwarae creadigol ac adrodd straeon bydd eich plant yn ein helpu i ateb yr holl gwestiynau hyn a mwy. Cynhelir y sesiynau bob dydd rhwng 10am a 3pm, dydd Llun 4 i ddydd Gwener 8 Awst.
Playmakers ar gyfer Blynyddoedd 7 i 13 (oed 11-18)
Ydych chi'n barod am yr her o ddysgu drama mewn wythnos? Ymunwch â'r Torch wrth i unigolion ymarfer a pherfformio drama gyfoes a ysgrifennwyd yn benodol ar gyfer pobl ifanc. Bydd cyfranogwyr yn cymryd rhan yn yr holl benderfyniadau creadigol - castio, gwisgoedd, propiau a cherddoriaeth!
‘Playmakers’ yw’r ysgol haf hŷn ar gyfer plant 11-18 oed, sy’n digwydd rhwng 10am a 4pm, dydd Llun 11 tan ddydd Gwener 15 Awst.
Show off! Oed 18+
Yn ddechreuwr llwyr neu am loywi eich sgiliau ysgrifennu, perfformio a chyfarwyddo? Pam na wnewch chi ymuno â'n hysgol haf i oedolion? Daw sesiynau wythnosol gyda'r hwyr i glo gyda pherfformiad arddangos yn ein theatr stiwdio. Nid oes angen profiad arnoch. Cynhelir y sesiynau rhwng 6.30pm - 9pm, Iau 7, 14, 21 a 28 Awst. Perfformiad arddangos Sadwrn 30 Awst.
“Mae ein Hysgolion Haf yn hynod boblogaidd felly archebwch eich lle yn gynnar er mwyn osgoi siomi. Gallwch ymweld â'n gwefan am fanylion pellach www.torchtheatre.co.uk neu ffonwich y Swyddfa Docunnau ar (01646) 695267 ac fe fydd y staff yno yn fwy na hapus i’ch helpu.”
“Pam oedi? Rhowch gynnig ar rywbeth newydd yr haf hwn. Ni allwn aros i'ch croesawu i haf o greadigrwydd yn y Torch,” meddai Tim gan ddod i glo.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.