Dewch i weld arbrofion cyffrous ar lwyfan!
Ydych chi’n mwynhau gwyddoniaeth? Ydych chi am weld rhai arbrofion cyffrous ar lwyfan? Bydd Exciting Science yn ymweld â Theatr Torch ddydd Mercher 18 Chwefror am ddwy sioe ffrwydrol. Anwen aeth i ddarganfod rhagor ....
Sut ddaeth y sioe Exciting Science i fodolaeth?
Dechreuodd y cyfan pan ddaeth ein mab pump oed adref o'r ysgol a dweud yr hoffai gael Parti Gwyddoniaeth ar gyfer ei ben-blwydd. Ar ôl edrych o gwmpas ar wahanol bartïon â thema wyddoniaeth - penderfynon ni greu ein rhai ni ein hunain. Roedd y plant wrth eu boddau â'n Rocedi Canister Ffilm, ein Lansiwr Taflegrau Glanhawr Llwch a'n biniau sbwriel cylch mwg, nes i ni benderfynu mynd ymhellach fyth a'i droi'n sioe ar gyfer y llwyfan.
Mae’n wych, oherwydd mewn theatr mae mwy o le i greu hyd yn oed rhagor o lanast ... sy'n haws i'w lanhau nag oedd ein lolfa ar ddiwedd parti pen-blwydd ein mab!
Felly, rydych chi'n cyfuno arbrofion gwyddoniaeth â theatr - i greu sioe hwyliog i blant?
Yn union. Mae arbrofion a gynhelir yn fyw ar y llwyfan yn ffordd berffaith o ymgysylltu â chynulleidfa, a thanio eu diddordeb mewn gwyddoniaeth.
Dyweda wrthym am y cyflwynwyr - Mad Mike, Dangerous Dean, Krazy Kelly a Fabulous Faye? Ydych chi i gyd yn wyddonwyr gwallgof cudd (neu ddim mor gudd)?
Wel, Mad Mike yw dyfeisiwr y grŵp, yn ddefnyddiol gyda rôl o dâp gaffer a set o gefail, gall droi unrhyw beth yn arbrawf gwyddonol newydd. Yna mae Dangerous Dean – mae fel ein dymi prawf damwain ein hunain – os oes unrhyw beth nad yw'r gweddill ohonom yn siŵr o'i wneud....... Rydyn ni'n gwneud i Dean ei wneud yn gyntaf. Krazy Kelly – peidiwch â chael eich twyllo gan y wên fawr a'r llygaid yn fflachio, mae hi'n feistr dinistr - ein harbenigwr dymchwel ein hunain. (Ac nid yw bob amser yn fwriadol), ac yn olaf, mae Fabulous Faye - mae hi'n gwybod ei ffeithiau, mae hi'n gwybod ei gwyddoniaeth... mae hi jyst... wel, yn wych.
Ac mae'n rhyngweithiol - ydy hynny'n golygu fy mod i'n cael cynnau llosgydd Bunsen?
Ddim yn hollol. Dw i'n meddwl ei bod hi'n well gadael y pethau cynnau, chwythu a llosgi .... i'r gweithwyr proffesiynol (wel, y rhai sydd wedi'u hyswirio o leiaf!!)
Ydy hon yn sioe lle rydych chi am osgoi eistedd yn y rhes flaen? Dydw i ddim am orffen gyda aeliau wedi llosgi, ydw i?
Peidiwch â phoeni, rydych chi'n berffaith ddiogel. Rydym yn cymryd ein hiechyd a'n diogelwch o ddifrif.... (Er nad yw ychydig bach o ddŵr yn hedfan o gwmpas yn brifo neb!!!)
O ddifrif serch hynny, a oes arbrofion erioed wedi mynd o chwith?
Drwy’r amser. Dyna natur gwyddoniaeth!
Beth yw'r peth mwyaf doniol sydd wedi digwydd ar y llwyfan?
Mae hynny’n hawdd - mae'n rhaid iddo fod yn ystod yr arbrawf Coke a Mentos pan lithrodd Dangerosu Dean, (sy'n gorfod tynnu'r pin a symud o'r ffordd, cyn i'r Botel Coke ffrwydro) - syrthio i'r pwll padlo a chael ei orchuddio ag 1 litr o goke ewynnog. Awgrymais i ni ei gadw fel rhan o'r sioe... ond doedd Dean ddim yn rhy awyddus... (meddai gan chwerthin yn uchel).
Bydd Exciting Science, yn dod i lwyfan Theatr Torch ar ddydd Mercher 18 Chwefror am 11.30am a 2pm. Pris tocyn: £15.50. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Theatr Torch www.torchtheatre.co.uk / ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar (01646) 695267 neu gliciwch yma.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.