Rydym ni wrth ein bodd â straeon ysbrydion ac roedden ni'n meddwl tybed a yw Seren hefyd?
Seren Vickers sy'n chwarae rhan y 'Fenyw – Athrawes Gartref' yn The Turn of the Screw yr wythnos hon yma yn y Torch. Rydym ni wrth ein bodd â straeon ysbrydion ac roedden ni'n meddwl tybed a yw Seren hefyd? Cafodd Anwen sgwrs gyda Seren i ddarganfod a yw hi hefyd wrth ei bodd â phethau sy'n gwneud twrw gefn nos.
Dyweda ychydig wrthym am dy gymeriad yn The Turn of the Screw?
Yr Athrawes Gartref yw unig ferch person gwledig tlawd. Ychydig iawn y mae'r Athrawes Gartref yn ei wybod am y byd. Mae hi wrth ei bodd â straeon ac yn cael ei dylwanwadu’n hawdd gan eraill. Mae'n optimistaidd ac yn rhamantydd anobeithiol wrth galon.
Wyt ti’n hoff o ysbrydion a straeon tywyll?
Dw i wrth fy modd â straeon ysbrydion. Dw i wrth fy modd â'r straeon tywyll sy'n tanio'ch dychymyg ac yn gwneud i'r gwallt ar gefn eich gwddf godi.
Drama i ddau berson, a fydd hyn yn her?
Nid yw ‘The Turn of the Screw’ yn teimlo fel drama i ddau berson. Mae’r ddrama’n cynnwys llu o gymeriadau – rhai gweladwy a rhai anweledig. Nid yw’r Athrawes Gartref byth yn gadael y llwyfan, ac mae’n rhannu ei meddyliau, ei theimladau a’i chyffesion gyda’i ffrindiau – y gynulleidfa.
Oeddet ti’n gwybod llawer am y stori cyn i ti gael cynnig y rhan?
Roeddwn i'n gyfarwydd â nofela fer Henry James, ac rydw i wedi cael fy swyno erioed gan ei chymeriadau a'i themâu.
Sut fyddi di’n paratoi ar gyfer y cynhyrchiad ac yn chwarae rhan y cymeriad?
Rydyn ni wedi bod yn ymarfer yn galed. Mae sgript Jeffrey Hatcher yn ddiddiwedd o ddiddorol. Mae'r testun yn llawn manylion i'w datgloi, ac rydyn ni'n eu defnyddio i adeiladu byd Bly, a dod â'r plasty a'i drigolion yn fyw.
Oes unrhyw ffilmiau ysbrydion / arswyd yn apelio atat a pham?
Dw i wrth fy modd â ffilmiau gwreiddiol Omen. Mae'r cyffro'n cynyddu gyda phob golygfa ac yn gwneud i'r tensiwn deimlo'n annioddefol.
Beth yw dy hoff lyfr ysbrydion / arswyd a pham?
Dw i'n ffan mawr o Stephen King. Dw i wrth fy modd â'r ffordd mae e'n cymysgu realiti â'r anhysbys ac yn gwneud i chi gwestiynu beth sy'n real.
Bydd The Turn of the Screw yn ymddangos ar lwyfan Theatr Torch nos yfory (nos Fercher 8 Hydref) tan ddydd Sadwrn 25 Hydref. Tocynnau: £18-£28. I archebu eich tocynnau fesul y wefan ewch i torchtheatre.co.uk / ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu gliciwch yma.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.