Theatr Ieuenctid y Torch yn Paratoi'r Ffordd ar Gyfer Actorion Uchelgeisiol

Wrth i aelodau Theatr Ieuenctid y Torch neidio i’r llwyfan yr wythnos nesaf gyda'u cynhyrchiad o Sycamore Gap, mae talent crai'r actorion ifanc hyn o Sir Benfro yn amlwg. Mae dosbarthiadau Theatr Ieuenctid yn dod yn fwyfwy poblogaidd ac mae'r bobl ifanc yn ffynnu nid yn unig ar y llwyfan, ond hefyd yn eu hastudiaethau actio a'u cynlluniau ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol.

“Mae bod yn y Torch i mi yn beth sy’n bwysig ac yn gwneud i mi deimlo’n gyfan. Mae wedi agor byd y drama i mi go iawn”, meddai Emily, 15 oed, gyda Lois (14) yn cytuno, gan ychwanegu “Mae bod yn aelod o Theatr Ieuenctid y Torch wedi rhoi llwyth o brofiadau dysgu a chyfleoedd i mi fynegi fy hun a gwneud ffrindiau newydd.”

Mae’r ddrama, stori ddiddorol o’r enw Sycamore Gap ac sy’n cael ei noddi gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, yn archwilio materion amgylcheddol a pherthnasoedd anodd. Mae Theatr Ieuenctid y Torch yn lle sy’n caniatáu i’r bobl ifanc feithrin cysylltiadau cadarnhaol â’i gilydd.

Wedi’i gosod ar y diwrnod yn dilyn torri’r goeden enwog a phoblogaidd, Sycamore Gap, mae’r ddrama’n gweld yr heddlu lleol yn cynnal ymchwiliad. Mae aelodau’r Clwb-Eco yn cael eu cyfweld yn unigol, ac mae’r disgyblion yn holi ei gilydd.

Mae bod yn rhan o’r ddrama wedi arwain at yr actores Theatr Ieuenctid Connie (16) yn magu hyder wrth iddi gyflwyno ei hachos - “Rydw i wedi gwneud cymaint o ffrindiau ac wedi meithrin hyder mewn sgiliau pobl. Mae’r Torch wedi fy nysgu i ddeall a gwrando ar eraill llawer mwy mewn golygfeydd a phan rydyn ni’n ei drafod fel grŵp.”

Mae Mel (16) yn ychwanegu: “Mae Theatr Ieuenctid y Torch wedi fy helpu i fynegi fy syniadau ac i feddwl y tu allan i’r bocs o ran trafod y byd.”

Mae Callie, sydd bellach yn 18 oed, wedi bod yn aelod o Theatr Ieuenctid y Torch ers iddi fod tua naw oed. Nid yn unig y mae wedi rhoi’r hyder iddi ymddangos ar y llwyfan ond mae wedi ei hannog i ddilyn gyrfa y tu ôl i’r llenni.

Dywedodd Callie wrthym: “Rydw i wedi cael cymaint o brofiadau anhygoel o chwarae rhan Jasmine i’r Prif Wenci. Mae’r Theatr Ieuenctid wedi fy helpu i sylweddoli fy nghariad at ddylunio gwisgoedd / gwallt a cholur ac wedi fy helpu i benderfynu gwneud diploma mewn trin gwallt i greu’r camau i’m dyfodol.”

Ychwanegodd Ria, 17 oed:

“Mae’r Torch yn ofod lle gallaf ddianc a chysegru fy hun i gael hwyl a chael fy amsugno’n llwyr mewn sgript. Rwyf wedi bod yn rhan o gynifer o ddramâu ac wedi cwrdd â chymaint o bobl wych. Mae’r gwersi grŵp wedi fy ysbrydoli i ysgrifennu a deall sgriptiau yn ogystal â materion cymdeithasol dyfnach. Mae wedi caniatáu i mi ymgysylltu a chymryd rhan mewn treialon ffug a rhoi’r hyder i mi ddilyn cyfleoedd cyfreithiol a digwyddiadau cymdeithasol.”

I lawer o aelodau Theatr Ieuenctid y Torch, mae cymryd rhan yn Sycamore Gap wedi rhoi hwb hyder go iawn iddyn nhw fel yr eglura Darcy:

“Mae’r Torch i mi yn fy helpu i roi fy hun allan o fy mharth cysur ac i ddysgu sut i fod yn aelod da o dîm.”

Mae Dylan, 15 oed, yn newydd i Theatr Ieuenctid y Torch ac mae wrth ei fodd yn dweud bod y sesiynau wedi ei helpu gyda’i hyder.

“Ymunais i ychydig fisoedd yn ôl, er hynny, mae wedi bod yn uchafbwynt llwyr bob wythnos ac mae wedi bod yn gymaint o hwyl gweithio gyda Sycamore Gap. Ymunais i gyntaf i fireinio ac archwilio fy mwynhad o actio, mae wedi fy annog i archwilio’r celfyddydau ymhellach, yn enwedig wrth i mi gynllunio ymlaen llaw ar gyfer y coleg.”

Mae llawer o aelodau Theatr Ieuenctid wedi penderfynu dilyn gyrfa ym myd y theatr yn dilyn eu profiadau yn y Torch, ac un o'r bobl ifanc hynny yw Lois: “Y Torch sydd wedi agor y syniad o ddilyn y celfyddydau i mi. Mae wedi rhoi hyder newydd i mi siarad â phobl newydd,” ac mae Dan, 17 oed, wedi gwneud cais am Ddrama yn y Brifysgol yn dilyn ei bresenoldeb yn y Torch.

“Mae Theatr Ieuenctid y Torch wedi fy annog i archwilio gyrfaoedd yn y dyfodol mewn drama, cynhyrchu a theatr, ac rwyf nawr yn penderfynu gwneud drama Lefel A i'm helpu ar y daith hon” ychwanegodd Connie.

Dywedodd Seren, 16 oed, fod cymryd rhan yn Sycamore Gap a bod yn aelod o Theatr Ieuenctid y Torch wedi rhoi hwb i’w hyder.

“Mae Theatr Ieuenctid y Torch wedi fy helpu i siarad â phobl newydd gan ei gwneud hi’n fuddiol ar gyfer astudio’r celfyddydau perfformio yn y coleg ac ennill hyder.”

Gellir gweld Sycamore Gap i'w gweld ar lwyfan Theatr Torch o ddydd Mercher 25 Chwefror i ddydd Gwener 27 Chwefror 2026. Pris tocyn: £10 | £8 Consesiynau. Canllaw oedran: 14+. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Theatr Torch www.torchtheatre.co.uk / ffoniwch y Swyddfa Docynnau neu gliciwch yma.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.