Mrs Beanz a Harriet y Ceffyl yn Diddanu Ymwelwyr yn Sioe Amaethyddol Sir Benfro

Galwodd cannoedd o ymwelwyr heibio i stondin Theatr Torch yn Sioe Amaethyddol Sir Benfro a gynhaliwyd dros ddeuddydd eleni i ddweud hylo wrth Harriet y Ceffyl annwyl a’r Mrs Beanz swynol. Roedd y popcorn yn ddanteithion gwych a chymerodd tua 300 o bobl ran yn y gystadleuaeth raffl am ddim i geisio ennill tocynnau sinema gwerth £250.

Enillydd y gystadleuaeth, a ddewiswyd ar hap, oedd Kim Nash o Johnston. Llongyfarchiadau!

“Roedd yn gystadleuaeth gyffrous ac rydym yn gobeithio bydd Kim yn mwynhau dod i’r Torch i weld yr holl ffilmiau diweddaraf sydd gennym,” meddai Harriet y Ceffyl a fwynhaodd wylio ei ffrindiau ceffylau yn cymryd rhan yn y ras  hela nos Fawrth.

“Cawsom groeso yn y sied wartheg cyn trotian o stondin i stondin yn hyrwyddo ein cynhyrchiad hydref o Turn of the Screw a’n panto Nadolig, Rapunzel. Fe lwyddon ni hyd yn oed i gael eistedd ar y trên a gwych oedd gweld cymaint o ffrindiau a chefnogwyr y Torch,” ychwanegodd Harriet y Ceffyl.

Roedd yn brofiad arbennig i Mrs Beanz hefyd. Ychwanegodd:

“O, roedd yn un o’r Sioeau Amaethyddol Sir Benfro gorau hyd yma! Fe wnaethom gyfarfod â chymaint o gefnogwyr y Torch ac eisteddais ar y tractor pinc a chadw fy hun yn heini ar y peiriant rhwyfo. Diolch i bawb a ymwelodd â’n stondin ym mhabell Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau, rydym eisoes yn edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf.”

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.