Tymor Sinema Machlud Haul Theatr Torch yn Dychwelyd!
Mae Theatr Torch yn falch iawn o gyhoeddi ei thymor Sinema Machlud Haul ar gyfer 2025, mewn cydweithrediad â Pure West Radio, partner cyfryngau swyddogol. O Gastell Penfro i Harbwr Llanusyllt a lleoliad newydd cyffrous ar gyfer eleni, Castell Aberteifi, mae ffilm a lleoliad ar gyfer pawb. Mae Theatr Torch hefyd yn falch o gyhoeddi y bydd dangosiadau detholedig prynhawn o ffilmiau sy'n addas i deuluoedd gan ddefnyddio sgrin LED awyr agored o'r radd flaenaf.
Bydd Sinema Machlud Haul yn dechrau tymor 2025 ddydd Sadwrn 26 Gorffennaf gyda'r sioe boblogaidd Top Gun: Maverick ym Mhorthladd Llanusyllt, ac yna dwy sioe o Toy Story a Bohemian Rhapsody ddydd Gwener 1 Awst yn yr un lleoliad. Grease yw'r gair ddydd Gwener 8 Awst a bydd yn diddanu pawb ar Noson o Haf.
Mae Castell Aberteifi wedi ymuno â thymor Sinema Machlud Haul Theatr Torch eleni, ac yn dangos Toy Story a Top Gun ddydd Iau 7 Awst. Ar brynhawn dydd Iau 14 Awst, bydd The Lion King yn cael ei dangos, ac yna Elvis ar yr un noson. Yn ôl yn Llanusyllt ddydd Gwener 15 Awst, bydd y ffilm haf boblogaidd Grown Ups yn swyno cynulleidfaoedd. Bydd Tŵr y Felin, Tyddewi yn diddanu cynulleidfaoedd ddydd Sadwrn 16 Awst gyda Pirates Of The Caribbean: The Curse Of The Black Pearl. Bythefnos yn ddiweddarach a chyda gwyliau'r haf ar eu hanterth, bydd Harbwr Llanusyllt yn dangos The Lion King brynhawn dydd Gwener 22 Awst. A'r un noson honno, ewch i ddawnsio a chanu i Mamma Mia! Here We Go Again! daraw yng Nghastell Aberteifi. Y noson ganlynol, 23 Awst, gweler Saturday Night Fever (18) yno.
“Ni all Theatr Torch aros i’ch diddanu yn ystod dyddiau a nosweithiau hir, cynnes yr haf mewn sawl lleoliad eiconig ar draws ein siroedd hardd. O Harbwr Llanusyllt i Gastell Penfro, pa leoliadau gwell sydd i wylio’ch hoff ffilmiau ar brynhawn heulog godidog neu o dan y sêr? Rydym hefyd yn edrych ymlaen at fentro i dde Ceredigion i Gastell Aberteifi gyda’n sgrin fawr i ddiddanu pawb,” meddai Chelsey Gillard, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Torch.
Bydd Castell Penfro yn trawsnewid yn hudolus i fod yn Hogwarts wrth i Harry Potter and the Chamber of Secrets daro'r sgrin fawr ddydd Gwener 29 Awst. Yna byddwn yn edrych tua'r awyr Orllewinol wrth i Wicked gyrraedd y Castell ddydd Sadwrn 30 Awst.
“Rydym yn ceisio peidio â gadael i dywydd Sir Benfro effeithio ar ein dangosiadau awyr agored ac os bydd hi'n bwrw glaw bydd y sioe'n mynd yn ei blaen. Dim ond mewn achos o dywydd eithafol, fel gwyntoedd peryglus o gryf, y bydd y dangosiadau'n cael eu canslo. Rydym yn cynghori pawb i wisgo'n briodol ac i wirio rhagolygon y tywydd cyn pob dangosiad,” ychwanegodd Chesley.
· 26 Gorffennaf – Harbwr Llanusyllt – Top Gun: Maverick.
Gatiau'n agor am 7pm. Ffilm yn dechrau am oddeuutu. 9pm
· 1 Awst – Harbwr Llanusyllt – Toy Story
Gatiau'n agor am 2.30pm. Ffilm yn dechrau am 4pm
· 1 Awst – Harbwr Llanusyllt – Bohemian Rhapsody
Gatiau'n agor am 6pm. Ffim yn dechrau am 7.30pm
· 7 Awst – Castell Aberteifi – Toy Story
Gatiau'n agor am 4pm. Ffilm yn dechrau am 5.30pm
· 7 Awst – Castell Aberteifi – Top Gun
Gatiau'n agor am 7.30pm. Ffilm yn dechrau am oddeutu. 9pm
· 8 Awst – Harbwr Llanusyllt – Grease
Gatiau'n agor am 7pm. Ffilm yn dechrau oddeutu. 9pm
· 14 Awst – Castell Aberteifi – The Lion King
Gatiau'n agor am 4pm. Ffilm yn dechrau am 5.30pm
· 14 Awst – Castell Aberteifi – Elvis
Gatiau'n agor am 7.30pm. Ffilm yn dechrau am oddeutu 9pm
· 15 Awst – Harbwr Llanusyllt – Grown Ups
Gatiau'n agor am 7pm. Ffilm yn dechrau oddeutu. 9pm
· 16 Awst – Tŵr y Felin, Tŷ Ddewi – Pirates of the Caribbean: The Curse of the Black Pearl.
Gatiau'n agor am 7pm. Ffilm yn dechrau oddeutu 9pm.
· 22 Awst – Harbwr Llanusyllt – The Lion King
Gatiau'n agor am 2.30pm. Ffilm i ddechrau am 4pm
· 22 Awst – Harbwr Llanusyllt – Mamma Mia! Here We Go Again
Gatiau'n agor am 6pm. Ffilm yn dechrau am 7.30pm
· 23 Awst – Castell Aberteifi - Saturday Night Fever (18)
Gatiau'n agor am 7.30pm. Ffilm i ddechrau am oddeutu 9pm
· 29 Awst – Castell Penfro – Harry Potter and the Chamber of Secrets
Gatiau'n agor am at 6pm. Ffilm i ddechrau am 7.30pm
· 30 Awst – Castell Penfro – Wicked
Gatiau'n agor am 6pm. Ffilm i ddechrau am 7.30pm
Gellir cael manylion pob lleoliad trwy ymweld â torchtheatre.co.uk neu drwy gysylltu â'r Swyddfa Docynnau ar 01646 695267. Gellir prynu tocynnau ar-lein neu ym mhob lleoliad ac maent yn costio £12 os cânt eu prynu ymlaen llaw neu £15 wrth y giât.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.