Creaduriaid Bach Glas Annwyl yn Heidio i'r Torch!
Yn adnabyddus am eu hetiau gwyn a'u cyrff glas, mae'r Smurfs, sy'n byw mewn tai siâp madarch mewn coedwig, yn dychwelyd i’n diddanu a phwy na all garu'r cymeriadau hyfryd? O'r Smurfs yn 2011, The Smurfs 2 yn 2013 a Smurfs: The Lost Village bedair blynedd yn ddiweddarach, bydd cefnogwyr wrth eu bodd yn croesawu'r ffilm newydd.
Pan gaiff Papa Smurf (John Goodman) ei gipio’n ddirgel gan y dewiniaid drwg, Razamel a Gargamel, mae Smurfette (Rihanna) yn arwain y Smurfs ar genhadaeth i’r byd go iawn i’w achub. Gyda chymorth ffrindiau newydd, rhaid i’r Smurfs ddarganfod beth sy’n diffinio eu tynged i achub y bydysawd.
“Mae pawb wrth eu bodd â’r Smurfs, a ddyfeisiwyd gyntaf ym 1958. Fe’u crëwyd gyntaf fel cyfres o gymeriadau comig gan Peyo, yr artist o Wlad Belg, ac erbyn hyn mae mwy na 100 o gymeriadau Smurf. Mae eu henwau’n seiliedig ar ansoddeiriau sy’n pwysleisio eu nodweddion a ‘Smurfette’ oedd y Smurf benywaidd gyntaf i gael ei chyflwyno yn y gyfres,” meddai Anwen Francis o dîm marchnata Theatr Torch.
Mae gan SMURFS gast lleisiau serennog sy’n cynnwys Rihanna, James Corden, Nick Offerman, JP Karliak, Daniel Levy, Amy Sedaris, Natasha Lyonne, Sandra Oh, Octavia Spencer, Nick Kroll, Hannah Waddingham, Alex Winter, Maya Erskine, Billie Lourd, Xolo Maridueña gyda Kurt Russell a John Goodman.
Gwyliwch y Smurfs (U) ar y sgrin fawr yn Theatr y Torch o ddydd Gwener 25 Gorffennaf – Sul 17 Awst. Tocynnau £7.50 | £7.00 Gostyngiad | £6.00 Plentyn | £24.00 Teulu. I archebu tocynnau ewch i torchtheatre.co.uk / ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu gliciwch yma.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.