Adrodd straeon dwyieithog yn cysylltu cymunedau a'r awyr nos ledled Cymru
Bydd Theatr Torch yn croesawu Stars and their Consolations fis Mawrth eleni - profiad theatr newydd agos atoch sy'n edrych ar fythau clasurol wedi'u hysbrydoli gan y sêr. Fel rhan o daith Cymru, bydd adroddwyr straeon dwyieithog o bob cwr o'r wlad yn cyflwyno gweithgareddau a digwyddiadau i ddod â chymunedau ynghyd ac annog pobl i feddwl am straeon traddodiadol a newydd Cymru sy'n gysylltiedig ag awyr y nos, yn arwain at Wythnos Awyr Dywyll Cymru (13-22 Chwefror).
Mae Cysur y Sêr yn brosiect dwyieithog dan arweiniad Cymru sy'n ymwneud â datblygu straeon yn Gymraeg, parch amgylcheddol a gadael gwaddol effeithiol i genedlaethau'r dyfodol, a fydd yn arwain at Wythnos Awyr Dywyll Cymru a hefyd teithio sioe Stars and their Consolations ledled Cymru yn ystod misoedd Mawrth ac Ebrill eleni. Mae Cysur y Sêr yn brosiect ledled Cymru dan arweiniad y cwmni cynhyrchu adrodd straeon Adverse Camber, gyda chefnogaeth Theatrau Sir Gâr, Cyngor Celfyddydau Cymru, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Sefydliad Elusennol Colwinston, Ymddiriedolaeth Darkley, Llywodraeth Cymru, Partneriaeth Prosiect Nos a People Speak Up.
Dros y ddau fis nesaf, bydd 10 storiwr dwyieithog yn cynnal digwyddiadau mewn cymunedau ledled Cymru gyda Chastell Henllys ger Trefdraeth, Sir Benfro yn cynnal digwyddiad ddydd Mawrth 17 Chwefror gyda Hedydd Hughes wrth y llyw. Bydd Hedydd yn cyflwyno straeon Awyr y Nos i deuluoedd rhwng 11am a 3pm.
Ers cenedlaethau, mae straeon awyr y nos wedi helpu cymdeithas i wneud synnwyr o ddigwyddiadau tymhorol ac allweddol. Mae Cymru yn un o'r prif gyrchfannau byd-eang ar gyfer syllu ar y sêr, gyda nifer gynyddol o Leoedd a Gwarchodfeydd Awyr Dywyll Rhyngwladol gwarchodedig. Bydd y prosiect hefyd yn gadael gwaddol parhaol a fydd yn cael ei gadw yng Nghasgliad y Bobl yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a fydd yn gasgliad sain o straeon cytserau a adroddir yn Gymraeg a grëwyd gan y storïwyr a oedd yn rhan o'r prosiect.
Meddai Dani Robertson, o Bartneriaeth Prosiect Nos Dark Skies:
“Mae Prosiect Nos yn hynod ddiolchgar i Adverse Camber a’r adroddwyr straeon, a fydd yn rhoi bywyd newydd i’r straeon hyn ac yn eu dwyn i galonnau cymunedau ledled Cymru. Bydd hyn yn caniatáu i genhedlaeth newydd sbon o bobl gysylltu â straeon y cytserau, ac yn helpu cenedl i ddeall beth sydd mewn perygl os ydym yn gadael i lygredd golau rwystro’r awyr, a dwyn y sêr oddi wrth genedlaethau’r dyfodol.”
Dywedodd Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol:
“Rydym yn falch o gefnogi Cysur y Sêr, prosiect sy’n dwyn ynghyd adrodd straeon, iaith a’n treftadaeth naturiol. Drwy gysylltu cymunedau ag awyr y nos a chwedlau Cymru, bydd y fenter hon yn gwarchod treftadaeth ddiwylliannol ac yn ysbrydoli straeon newydd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Wedi’i gwneud yn bosibl diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae’n enghraifft o sut y gall treftadaeth fod â gwreiddiau mewn traddodiad ac yn y dyfodol.”
Gellir gweld Stars and their Consolations ar lwyfan Theatr Torch ar nos Fawrth 24 Mawrth. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Theatr Torch www.torchtheatre.co.uk / ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar (01646) 695267 neu gliciwch yma.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.