Teyrnged i Sting a The Police

Wedi'i arwain gan Owen Jones sy’n edrych ac sy’n swnio debyg i Sting, ‘The Rozzers’, ‘A Tribute to Sting & The Police’ yw’r deyrnged Sting fwyaf dilys yn Ewrop. Mae aelodau'r band wedi perfformio ledled y byd ers sawl blwyddyn ac maent bellach yn cychwyn ar eu taith fwyaf erioed yn y DU ac mae Theatr Torch yn edrych ymlaen yn eiddgar at eu croesawu!

Gellir dadlau mai'r Police oedd y band mwyaf ar y blaned rhwng 1977 ac 1983, gyda phum cân yn cyrraedd rhif un ar ddwy ochr yr Iwerydd. Yna aeth Sting ymlaen i fod yn un o gyfansoddwyr caneuon unigol mwyaf clodwiw ei genhedlaeth. Gwerthodd gyfanswm o fwy na 100 miliwn o recordiau fel artist unigol o 1985 ac fel aelod o'r Police.

Mae'r canwr a'r cyfansoddwr caneuon Prydeinig, Sting, wedi derbyn tair Gwobr Brit, Golden Globe, Emmy a phedair enwebiad Gwobr Academi ac ychydig dros 10 mlynedd yn ôl, cafodd ei wneud yn Gymrawd Ivor Novello. Mae ei wobrau cerddoriaeth mor hir â'ch braich a'i boblogrwydd mor gryf ag erioed.

O Roxanne ac Every Breath You Take i Fields of Gold ac Englishman in New York, mae'r holl ganeuon llwyddiannus yn cael eu hatgynhyrchu gyda dilysrwydd a chywirdeb lleisiol syfrdanol. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gweld y sioe hon ddydd Sadwrn 5 Gorffennaf.

Bydd A Tribute to Sting and the Police Starring the Rozzers yn ymddangos ar lwyfan Theatr Torch ar nos Sadwrn 5 Gorffennaf am 7.30pm. Tocynnau’n: £24. I archebu eoch tocynnau ewch i torchtheatre.co.uk / ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu gliciwch yma.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.