Aelodau Theatr Ieuenctid yn Blagurio ar y Llwyfan

Rydym oll yn gyfarwydd â choeden Sycamore Gap a wnaeth y penawdau yn 2023 pan gafodd ei thorri'n anghyfreithlon yn Northumberland ger Mur Hadrian. Ymddangosodd y sycamorwydden enwog yn Robin Hood Prince of Thieves. Roedd i fod yn un o'r coed hynaf yn y DU.

Achosodd y digwyddiad gynnwrf ledled y byd ac mae cwympo'r goeden hynafol yn destun sioe wanwyn Theatr Ieuenctid y Torch, a noddir gan Barc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro.

Mae'r antur yn digwydd y bore ar ôl i'r goeden gael ei thorri, ac mae'n canolbwyntio ar grŵp o bobl ifanc o glwb Eco ysgol uwchradd. Yn debyg iawn i bawb mae ganddyn nhw lawer o gwestiynau; pwy dorrodd y goeden? A fyddan nhw'n cael eu dwyn i gyfrif? Bydd llawer o ddail yn datblygu cyn iddyn nhw gyrraedd gwraidd y broblem. Mae pethau'n dechrau dadfeilio'n gyflym wrth i'r tymheredd godi, cyfeillgarwch chwalu a dicterau hirhoedlog ddod i'r wyneb. Pwy fydd yn cael yr atebion yn gyntaf, yr heddlu neu aelodau'r clwb Eco, neu a fyddan nhw'n mynd ar ôl 'sgwarnog?

Yn dilyn cynyrchiadau llwyddiannus Theatr Ieuenctid y Torch, fel The Bangers and Chips Explosion, Ravers, a Wind in the Willows, mae Tim Howe, Uwch Reolwr Ieuenctid a Chymuned Theatr Torch, yn edrych ymlaen yn eiddgar i’r ymarferion ddechrau.

“Rydym yn falch iawn o fod yn partneru â Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro ar y cynhyrchiad hwn, ac allwn ni ddim ag aros i ddod â’r stori hon yn fyw. Bydd y rhai ohonoch sydd wedi gweld cynyrchiadau theatr ieuenctid Theatr Torch yn gwybod eu bod nhw’n dathlu ein pobl ifanc, a’r cyfan y maen nhw’n gallu ei wneud,” meddai Tim.

Mae'r ddrama newydd sbon hon yn olwg ddi-ofn ar y grymoedd sy'n llunio'r byd heddiw. Mae'n cysylltu amgylcheddaeth â diwylliant canslo, ac yn archwilio sut mae pobl ifanc yn delio â gwrywdod gwenwynig a strwythurau pŵer. Mae pobl ifanc Torch eisoes yn cael trafodaethau ffyrnig, hanfodol, am y pynciau hyn ac maent yn awyddus i ddod â'r syniadau heriol hyn i'r llwyfan.

Parhaodd Tim: “Nid coeden Sycamore Gap yw’r unig gysylltiad â Robin Hood y byddwn yn ei rannu yn 2026. Rydym yn falch o gyhoeddi y bydd yr holl bobl ifanc yn Theatr Ieuenctid Torch fis Gorffennaf yn perfformio fersiwn newydd sbon o stori Robin Hood, wedi’i hysgrifennu ar eu cyfer nhw yn unig! Mae’n addo bod yn antur epig.”

Bydd Theatr Ieuenctid y Torch yn cyflwyno Al Smith Sycamore Gap fis Chwefror hwn fel rhan o Raglen Cysylltiadau NT y National Theatre.

Gellir gweld Sycamore Gap ar lwyfan Theatr Torch o ddydd Mercher 25 Chwefror i ddydd Gwener 27 Chwefror 2026. Pris tocyn: £10 | £8 Cons. Bydd Robin Hood yn chwarae o 20 – 22 Gorffennaf 2026 gyda thocynnau'n mynd ar werth yn y Gwanwyn. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Theatr Torch www.torchtheatre.co.uk neu ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar (01646) 695267.

 

 

 

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.