Fersiwn Ffres o’r Stori Glasurol a Fydd yn Gwneud i Chi Sgrechian Mewn Llawenydd!
Byddwch yn barod am antur ddoniol a chynnes yn Three Little Pigs – The Musical — fersiwn ffres o’r stori glasurol a fydd yn gwneud i chi sgrechian mewn llawenydd ac udo â chwerthin yn Theatr Torch fis Hydref eleni.
Pan fydd Mami Mochyn yn penderfynu ei bod hi'n bryd i'w thri bach, Bar, Bee a Q, adael eu cwt moch blêr ar ôl ac adeiladu cartrefi newydd, mae'r antur yn dechrau. Wrth geisio dod o hyd i'r lleoliad delfrydol, maen nhw'n sylweddoli nad ydyn nhw'n cytuno o gwbl ynglŷn â'u trefniadau byw delfrydol, ond mae'r blaidd mawr drwg yn pwffian a phwffian, ac ar grwydr. Gyda gwair, ffyn a briciau, rhaid iddyn nhw weithio gyda'i gilydd i drechu'r blaidd a llywio'r byd mawr, drwg.
Gyda digon o chwerthin a chyffro, maen nhw'n darganfod bod llwyddiant yn dod o waith caled a glynu at ei gilydd. Yn cynnwys pypedwaith anhygoel gan Matthew Forbes, Cyfarwyddwr Pypedwaith Cyswllt War Horse gyda’r National Theatre, mae'r cynhyrchiad hwn yn cynnig gwledd weledol sydd mor drawiadol â'r stori ei hun. Mae'r pypedau trawiadol yn dod â byd Y Tri Mochyn Bach yn fyw, ac yn gwneud hwn yn brofiad gwirioneddol hudolus i gynulleidfaoedd o bob oed.
Dywedodd Christopher Brookes,Cyfarwyddwr Artistig yn Wise Owl Theatre; "Rydym wrth ein bodd yn cyflwyno The Three Little Pigs: The Musical, ail-adroddiad ffres o'r clasur annwyl sy'n dathlu creadigrwydd, hiwmor, a phŵer adrodd straeon. Mae ein tîm talentog wedi gweithio'n ddiflino i ddod â'r cynhyrchiad hwn yn fyw, a chyfuno cerddoriaeth bythgofiadwy Stiles a Drewe â phypedwaith cyfareddol a chyffyrddiad o hud!"
Mae'r Tri Mochyn Bach yn "gynffon gerddorol swynol, gyrliog iawn" sy'n dod â bywyd newydd i'r stori glasurol gyda chaneuon deniadol, rhigymau clyfar, a llwyth o hiwmor. Ond nid hwyl a gemau yn unig yw'r cyfan - mae gan y fersiwn hon o'r stori annwyl rywbeth clyfar i'w ddweud am gartref, teulu, a phŵer o ddyfalbarhau.
“Mae’n wych bod The Three Little Pigs – The Musical yn dod i’r Torch am ddau ddiwrnod o hwyl a sbri. Bydd pob plentyn sy’n dod i weld y perfformiad yn derbyn taflen ffeithiau am fochyn am ddim a chofiwch edrych ar wefan Facebook Theatr Torch am wybodaeth am ein Cystadleuaeth Oinc Oinc,” meddai Anwen Francis o’r Tîm Marchnata.
A fydd y Tri Mochyn Bach yn llwyddo i uno i drechu'r Blaidd Mawr Drwg? Mae digon mwy o droeon annisgwyl yn y stori gerddorol hynod gyrliog hon yn Theatr Torch ddydd Mercher 29 Hydref am 4.30pm a dydd Iau 30 Hydref am 11.30am a 3pm. Pris £16.00, £14.00 Plentyn a £55 Teulu. Ewch i’r wefan am ragor o fanylion www.torchtheatre.co.uk / ffonwich y Swyddfa Docynnau ar (01646) 695267 neu gliciwch yma.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.