Dewch i ddarllen am farn Val a Liam ynghylch Rapunzel

Gellir dychmygu straeon tylwyth teg, anturiaethau llyfrau stori mewn tonnau hudolus yn lapio'r arfordir ac yn gorffen mewn cyfres o hwyl a sbri cyffrous.

Mewn dim o dro, rydym yn teithio rhwng salon gwallt wedi’i addurno’n foethus - cyn cael ein taflu'n ddwfn i'r môr, wedyn yn suddo o dan yr wyneb. Mae lliwiau'n ymddangos, wedi'u cyfoethogi ag adlewyrchiadau o aur a gwyrdd a phinc a pharti dathlu phen-blwyddi.

Mae Chelsey Gillard, Cyfarwyddwr Artistig y Torch, wedi rhagori gyda'i chynhyrchiad diweddaraf. Mae'r sgript yn llawn sŵn mwmian haid o jôcs yn hedfan i mewn yn drwchus ac yn gyflym, ac yn byrstio ag egni hiwmor ar ras.

Y stori brofedig a gwir – gyda’r da a’r drwg, cywir ac anghywir mewn brwydr a thragwyddoldeb. Rydym wedi ein hatal mewn amser, wedi ein hongian a'n dal gan gryfder sidanaidd un tres, i aros yn eiddgar am y diweddglo gorau, hapus-dragwyddol. 

Mae cyfeillgarwch a chemeg gwych rhwng y cast cyfan ac rydym ni, y gynulleidfa, yn cael mwynhau a rhannu'r cyfan yn llawn! Mae'r defnydd rhyfeddol gan holl aelodau'r cast o'r holl ofod theatr yn galluogi hyn ... mae'r byd i gyd o’u blaen!

Freya Dare sy'n chwarae rhan Zephyr y Pâl. Ymgorfforiad perffaith o ffrind pluog hyfryd, bywiog - bob amser wrth law, yn barod ac yn siglo plu. Gan hedfan i mewn yn arbennig o Sgomer, mae hi'n beilot siarter ei hun - ac mae ei ffrind, Rapunzel, dan ei hadain bob amser.

Mae sgôr gerddorol James Williams yn wych! Mae'n fraint cael cerddoriaeth wreiddiol wedi'i chyfansoddi'n arbennig ar gyfer pantomeim y Torch. Daeth y caneuon â'r cynhyrchiad cyfan yn fyw eto, yn union fel y gwnaeth y gwisgoedd, y setiau, y propiau, y goleuadau a'r effeithiau arbennig. Roedd sgôr y gerddoriaeth yn cynnwys caneuon syfrdanol - popeth o faledi teimladwy, hiraethus i ganeuon môr i sain roc mentrus.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.