Syniadau’n Byrlymu yn y Gweithdai Creu Trwy Symudiad a Chelf
Ym mis Awst eleni, ymunwch â'r coreograffydd Billy Maxwell Taylor a'r artist Phoebe Lester am ddau ddiwrnod o weithgarwch creadigol llawn hwyl yn Theatr Torch, ac yn archwilio peintio, symudiad a chreu theatr! Mae'r sesiynau'n berffaith ar gyfer pobl 11-18 oed sy'n awyddus i ddatblygu sgiliau mewn peintio, coreograffi/theatr gorfforol, gwaith tîm a churadu profiad.
Mae'r gweithdai yn gymysgedd o chwareusrwydd a thawelwch, sy’n blaenoriaethu llesiant meddyliol, cynhwysiant a chydweithio lle mae pob cyfranogwr yn cael ei annog i adael pob sesiwn yn teimlo'n adfywiol, yn chwilfrydig ac yn gyffrous.
Ar ddiwedd y ddau ddiwrnod, bydd cyfle i rannu beth bynnag sy'n dod i'r amlwg mewn perfformiad heb bwysau, a fydd yn cyfuno symudiad â churadu celf ac ni all yr arweinwyr aros i weld beth fydd unigolion yn ei wneud gyda'i gilydd ac i'r syniadau ffynnu!
Cefnogir Creu Trwy Symudiad a Chelf gan Theatr Torch, cyllid Creu gan Gyngor Celfyddydau Cymru, ac fe’i gynhelir ar ddydd Mawrth 26 Awst a dydd Mercher 27 Awst rhwng 10am a 4pm yn Theatr Torch. Pris: £12 y dydd neu £20 am y ddau. Ewch i'r wefan am ragor o fanylion www.torchtheatre.co.uk neu ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar (01646) 695267.
.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.