NICOLA WILSON WEDI'I CHORONI'N FENYW GINIO ORAU YN SIR BENFRO!

25 Mlynedd o Ymroddiad a Chariad yn Ennill Prif Wobr Arwr Lleol ... Ar ôl wythnosau o enwebiadau twymgalon, mae Theatr Torch yn falch iawn o gyhoeddi mai Nicola Wilson o Ysgol Gynradd Wdig sydd wedi ei choroni’r Fenyw Ginio Orau yn Sir Benfro!

Mae taith anhygoel 25 mlynedd Nicola mewn ceginau ysgolion wedi cyffwrdd â bywydau niferus, ac wedi ennill cydnabyddiaeth iddi nid yn unig fel cogydd eithriadol, ond fel un o hoelion wyth cymuned ei hysgol sy'n ymgorffori ysbryd gofalu - sef yr hyn sy'n gwneud menywod cinio mor arbennig.

Cafodd y gystadleuaeth, a lansiwyd i ddathlu cynhyrchiad Theatr Ieuenctid y Torch o 'The Bangers & Chips Explosion' sydd ar ddod, nifer o enwebiadau cyffrous o bob cwr o Sir Benfro – gan gynnwys un enwebiad ar gyfer tîm cyfan o fenywod cinio! Fodd bynnag, roedd stori Nicola yn dal y llygad fel un wirioneddol eithriadol, nid yn unig am ei chwarter canrif o ymroddiad diderfyn i'r plant y mae'n eu gwasanaethu, ond hefyd fel yr unig fenyw ginio i dderbyn sawl enwebiad.

Gan ddechrau fel cynorthwyydd cegin cyn cymryd rôl y prif gogydd, mae Nicola'n enwog am ei sylw i fanylion – gan wybod alergedd, anoddefiadau bwyd a dewisiadau pob plentyn. Cymaint yw ei hymrwymiad nes i nifer o blant yr ysgol ddewis peidio â chael cinio ysgol pan yr oedd Nicola i ffwrdd o'r gwaith yn dilyn llawdriniaeth, sy'n dangos pa mor annwyl y mae hi i'r disgyblion.

Datgelodd un enwebiad ddyfnder ei hymroddiad: “Nid swydd yw bod yn fenyw ginio iddi, mae hi wrth ei bodd gyda'r plant. Roedd hi'n mynd i ymddeol y llynedd ond all hi ddim dod â'i hun i adael!”

Canmolodd enwebydd arall ei gofal eithriadol: "Mae hi'n gwybod yn union pwy sydd â pha alergedd neu anoddefiad bwyd. Mae hi'n rhoi sylw i bob plentyn yn yr ysgol honno. Mae'r plant yn ei hedmygu'n fawr ac mae hi'n sicr yn haeddu hyn."

Dywedodd Tim Howe, Uwch Reolwr Ieuenctid a Chymuned y Torch: "Mae stori Nicola yn cyfleu'n berffaith beth oedd y gystadleuaeth hon. Pum mlynedd ar hugain o wasanaeth, ynghyd â chariad mor ddiffuant at y plant y mae'n eu gwasanaethu - mae'n wirioneddol ysbrydoledig. Mae'r ffaith ei bod hi'n bwriadu ymddeol ond na allai ddioddef gadael y plant yn dweud popeth am ei chymeriad."

Parhaodd: “Pan ddarllenon ni fod nifer y disgyblion a oedd yn cael cinio wedi haneru yn ei habsenoldeb, fe wnaeth hynny bwysleisio faint mae'r arwyr tawel hyn yn ei olygu i gymunedau eu hysgol. Mae Nicola yn cynrychioli'r gorau o'r hyn y mae menywod cinio yn cyfrannu at fywydau ein plant bob dydd.”

Sylwodd Amelie, y swyddog Ieuenctid a Chymuned dros dro presennol: “Dydw i erioed wedi gweld cymuned yn cefnogi ei gilydd fel hyn o’r blaen. Mae’r effaith y mae’r menywod cinio hyn wedi’i chael ar Sir Benfro yn rhywbeth i fod yn falch ohono.”

Ychwanegodd Tim: "Rydym wrth ein bodd gyda'r holl gariad a ddangosir i fenywod cinio ledled Sir Benfro drwy'r gystadleuaeth hon. Mae'r ymateb wedi bod yn anhygoel! Nawr eich bod wedi dangos i ni faint mae'r unigolion gwych hyn yn wir olygu i chi, rydym yn annog pawb i fynd a dangos iddynt yn uniongyrchol. Maent yn haeddu clywed y geiriau caredig hyn bob dydd, nid ond adeg cystadlaethau."

Derbyniodd Nicola hamper selsig blasus gan Gate 2 Plate yn Hwlffordd, yn ogystal â dau docyn i weld 'The Bangers & Chips Explosion' – gwobr addas i unigolyn sydd wedi ymroi ei bywyd i fwydo a gofalu am eraill.

Roedd aelodau tîm Torch yn unfrydol yn eu penderfyniad, gyda chyfuniad Nicola o ragoriaeth broffesiynol, ymroddiad personol, a chariad gwirioneddol at y plant yn ei gwneud hi'n enillydd clir.

Bydd aelodau Theatr Ieuenctid y Torch yn cyflwyno The Bangers and Chips Explosion o ddydd Llun 21 Gorffennaf i ddydd Mercher 23 Gorffennaf am 6:30pm. Tocynnau £10 llawn / £8 consesiwn. I archebu tocynnau ewch i torchtheatre.co.uk neu ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 01646 695267.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.