Croeso Cynnes yn Disgwyl Pobl Ifanc yn Nhymor y Gwanwyn Theatr Ieuenctid y Torch

Ydy eich plentyn ym Mlwyddyn 3 neu 4 yr Ysgol? Ym mis Ionawr eleni, mae Theatr Torch yn agor ei drysau ar gyfer Tymor y Gwanwyn, ac rydym yn chwilio am aelodau newydd i ymuno â'n carfan ieuengaf!

Efallai eich bod wedi gweld cynyrchiadau llwyddiannus diweddar fel The Bangers and Chips Explosion, Ravers a The Wind in the Willows, ond nid perfformio yn unig yw nod Theatr Ieuenctid y Torch, fel yr eglurodd Tim Howe, sy'n arwain y rhaglen: 

“Mae ein sesiynau’n helpu pobl ifanc i feithrin eu hyder mewn lle diogel a chefnogol. Rydym yn cefnogi datblygiad sgiliau cymdeithasol drwy wneud ffrindiau newydd a dysgu gweithio fel tîm. Yn ogystal ag annog ein haelodau i ddefnyddio eu dychymyg i fynd i’r afael â heriau creadigol. Yn bwysicaf oll, mae pob sesiwn yn llawn egni a chwerthin!”

Mae'r sesiynau ar gyfer y grŵp oedran ieuengaf yn digwydd nos Fawrth rhwng 4:30pm a 6:00pm. Ychwanegodd Tim: “Dyma’r gweithgaredd ar ôl ysgol delfrydol i bob math o bobl ifanc. P’un a ydyn nhw’n berfformiwr naturiol, ychydig yn swil, neu ddim ond am roi cynnig ar rywbeth newydd, mae lle iddyn nhw yma.”

Tra bod y grwpiau iau yn meithrin eu sgiliau, mae grŵp hynaf y Theatr Ieuenctid yn dechrau ymarferion ar gyfer eu drama sydd ar ddod, Sycamore Gap (a noddir gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Sir Benfro), fel rhan o raglen Connections y National Theatr ledled y DU.

“Un o’r cyfleoedd perfformio hynny rydyn ni’n ei gynnig yw cynhyrchiad National Theatre Connections,” meddai Tim. “Drwy gydol eu hamser gyda ni, gall pobl ifanc gymryd rhan ym mhopeth o waith lleisiol ar gyfer ein Pantomeim i arddangosfeydd anffurfiol tymhorol a’n cynyrchiadau haf blynyddol ysblennydd. Mae Theatr Ieuenctid y Torch yn rhan hanfodol o’n rhaglen flynyddol o theatr fyw.”

Ond, beth yw barn y bobl ifanc am Theatr Ieuenctid y Torch?

“Mynd i Theatr Ieuenctid y Torch yw fy hoff ran o’r wythnos. Mae’n ddoniol, yn groesawgar, ac yn lle bach i ffwrdd o’r byd sy’n eich gwahodd i adael i fynd a bod yn rhydd,” meddai un brwdfrydig. “Mae’r Torch yn golygu llawer i ni ac mae wedi ein helpu i greu cysylltiadau ac yn rhoi cyfleoedd na fyddem byth wedi’u cael fel arall,”

meddai un arall.Mae grwpiau'n cyfarfod yn wythnosol gyda blynyddoedd ysgol 3 a 4 yn cyfarfod ar DDYDD MAWRTH rhwng 4:30pm a 6:00pm; blynyddoedd ysgol 5 a 6 yn cyfarfod ar DDYDD MERCHER rhwng 4:30pm a 6:00pm; blynyddoedd ysgol 7, 8, a 9 yn cyfarfod ar DDYDD MAWRTH rhwng 6.30pm ac 8:00pm gyda blynyddoedd ysgol 10, 11, 12 a 13 yn cyfarfod ar DDYDD MERCHER rhwng 7:30pm a 9:30pm.

Mae'r Torch yn edrych ymlaen at groesawu cenhedlaeth newydd sbon o wneuthurwyr theatr ifanc drwy ei ddrysau yn 2026.

Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Theatr Torch www.torchtheatre.co.uk / ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar (01646) 695267 neu e-bostiwch Tim Howe yn uniongyrchol ar tim@torchtheatre.co.uk.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.