Aled Jones yn y Torch!

Aled Jones – y bachgen â’i lais angylaidd ifanc a swynodd y byd fydd yn taro'r ffordd ar gyfer taith fawr ar draws y DU, lle bydd yn mynd Full Circle ac yn ymddangos ar lwyfan Theatr y Torch ar ddydd Mercher 27 Mawrth y flwyddyn nesaf.

Gan werthu dros saith miliwn o albymau, Aled oedd y seren wreiddiol, glasurol a wnaeth ei lwyddiant mewn maes arall. Fe wnaeth ei recordiad o Walking in the Air, o'r ffilm animeiddiedig The Snowman, roi enw cyfarwydd iddo ac mae wedi dod yn rhan annatod o ddathliadau Nadoligaidd y genedl. Yr un mor gartrefol ar y llwyfan clasurol, neu’n serennu mewn cynyrchiadau theatr gerdd yn West End Llundain, mae ei gredydau’n cynnwys prif rannau yn Joseph and the Amazing Technicolor Dreamcoat, Chitty Chitty Bang Bang a White Christmas gan Irving Berlin.

Meddai Aled: “Mae’n amser dod i’r Full Circle. Rwy'n gyffrous iawn am y daith hon. Byddaf yn adrodd straeon am sut y dechreuodd y cyfan, ac yna'n mynd â'r gynulleidfa ar daith fy ngyrfa. Bydd caneuon, bydd straeon, a bydd un neu ddau syrpreis. Bydd yna lyfr hefyd – mae’n mynd i fod yn 2024 prysur iawn a dw i’n edrych ymlaen at fynd ar y ffordd ac ymweld â mannau diddorol nad ydw i erioed wedi ymweld â nhw o’r blaen ac wrth gwrs gweld fy nghefnogwyr gwych.

“Bu rhai adegau anhygoel – cyfarfod â’r teulu Brenhinol, chwarae mewn neuaddau cyngerdd ar draws y byd, canu ym mhriodas Bob Geldof a Paula Yates – ac, wrth gwrs, recordio Walking In The Air, i Songs Of Praise a Classic FM.

“Bydd y sioe yn straeon a chaneuon o bob rhan o fy ngyrfa. Byddaf yn canu rhai o fy ffefrynnau, yn adrodd rhai o fy straeon, ac yn dangos ffotograffau nas gwelwyd o’r blaen. Pwy a wyr, efallai y bydd y gynulleidfa hyd yn oed yn cael gofyn ychydig o gwestiynau.”

Fel canwr, mae galw mawr am Aled yn fyd-eang ac mae wedi perfformio yn lleoliadau mwyaf eiconig y byd, o’r Royal Albert Hall yn Llundain i Dŷ Opera Sydney. Mae Aled yn ffefryn gyda'r Teulu Brenhinol ac fe roddodd berfformiad preifat i'r Brenin Charles III ym Mhalas Kensington.

A bellach, mae’n paratoi i adrodd ei stori yn ystod cyfres o gyngherddau agos-atoch, gan ddechrau yng ngwanwyn 2024.

Mae’n ddarlledwr teledu a chyflwynydd radio gwobrwyedig sydd wedi cyfweld cannoedd o sêr A-List dros y blynyddoedd. Mae’n arwain Songs of Praise y BBC a’i sioeau ei hun ar fore Sadwrn a Sul ar Classic FM.

Nawr, ar ôl 40 mlynedd yn y busnes, mae’n edrych yn ôl ar yrfa ryfeddol gyda sioe un dyn, a fydd yn cynnwys cerddoriaeth nas clywyd erioed o’r blaen, hanesion y degawdau ac am y tro cyntaf, ei stori’n cael ei hadrodd yn ei eiriau ei hun. Mae'n amser dod Full Circle.

Bydd Aled Jones ar lwyfan Theatr y Torch ar nos Fercher 27 Mawrth am 7.30pm. Tocynnau £30 / £50 VIP / £70 Cwrdd a Chyfarch. Am docynnau ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu ewch i torchtheatre.co.uk.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.