NOSON HEB KATE BUSH

P’un a ydych chi wedi bod yn gefnogwr ers degawdau neu wedi ymuno â’r dorf yn ddiweddar trwy’r ffenomen ‘Stranger Things’, ni fu erioed amser gwell i ryddhau eich Bush mewnol a dathlu yn y sioe lawen, unigryw hon sy’n llawn meddwl – An Evening Without Kate Bush yn Theatr y Torch y Chwefror hwn.  

Mae Kate Bush yn eicon go iawn: mae ei cherddoriaeth yn unigryw, yn ymestyn dros bron i bum degawd, gan ennill gwobrau di-ri a gwerthu miliynau o recordiau, ond mae’r fenyw ei hun yn dipyn o enigma ac mae’r perfformiad hwn yn y Torch gan Sarah-Louse Young yn siŵr o apelio i gefnogwyr Bush.

Yn dilyn ei rhediadau yn y ‘Fringe’ Caeredin a wnaeth werthu pob tocyn, sydd wedi cael canmoliaeth y beirniaid, dau dymor Theatr Soho a theithiau o amgylch y DU 2020-2022 mae’r sioe hynod lwyddiannus hon yn dychwelyd! Bydd Sarah-Louise a’i chyd-grëwr Russell Lucas yn talu teyrnged ogoneddus i gerddoriaeth, ffans, a chwedloniaeth un o leisiau mwyaf dylanwadol cerddoriaeth Brydeinig.

Wedi derbyn pum seren ac wedi ei disgrifio’n “Gyfareddol gan y Daily Telegraph, mae’r sioe yn addas ar gyfer y rheiny 12 mlwydd oed, yn ymweld â Theatr y Torch ddydd Iau 23 Chwefror a disgwylir i docynnau werthu'n gyflym.

Mae Sarah-Louise Young, sy'n chwarae rhan Kate, wedi bod yn gefnogwr ers yr oedd yn ifanc.

“Rydw i wastad wedi caru cerddoriaeth Kate Bush ac fel plentyn o’r 70au a’r 80au rwy’n cofio’r ymddangosiad cyntaf hwnnw ar Top Of The Pops a’r holl fideos a chaneuon anhygoel a ddilynodd. Hefyd roedd fy mrawd yn ei ffansïo ychydig felly roedd ei cherddoriaeth bob amser yn treuddio drwy'r tŷ” meddai Sarah-Louise.

Bydd An Evening Without Kate Bush yn ymweld â Theatr y Torch ar ddydd Iau 23 Chwefror am 7.30pm. Tocynnau’n £22.00 | £20.00 Consesiynau | £18.00 U26. Gellir prynu tocynnau o Theatr y Torch y Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu torchtheatre.co.uk.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.