BLOG RHIF. 8 - ANWEN FRANCIS

Mae Theatr y Torch wastad wedi chwarae rhan bwysig yn fy mywyd. Ymwelais â’r Theatr yn flynyddol fel plentyn gydag Ysgol Gynradd Aberteifi a’r panto Nadoligaidd oedd uchafbwynt y flwyddyn. Mae gen i atgofion melys iawn o ymweld â’r Torch ac yn y fan hon dechreuodd fy angerdd am waith theatr, ysgrifennu, radio a theledu.

Gan symud ymlaen yn gyflym rhyw 20 mlynedd, a dw i wedi bod yn ddigon ffodus i ddefnyddio fy sgiliau theatr, cerddoriaeth a chyfryngau fel aelod ffrilans yn y Torch – fel cyfieithydd ac fel rhan o’r tîm marchnata (a dyna dîm gwych!) Does dim byd gwell na gweld eich gwaith caled yn talu ar ei ganfed ac awditoriwm y theatr yn llawn dop gyda mynychwyr theatr yn gwylio cynhyrchiad gwych ac yn gadael wedi cael profiad bendigedig, ac am fwy!

Ni allaf ddychmygu byd heb theatr. Yn y Torch rydym yn croesawu amrywiaeth o gwmnïau – rhai’n ddwyieithog, eraill trwy gyfrwng y Saesneg ac eraill sy’n uniaith Gymraeg megis Jemima (Arad Goch) ac Imrie (Frân Wen a Theatr y Sherman) i’w dangos dros y misoedd nesaf. Croesawyd hefyd ddrama gerdd Tic Toc yn ddiweddar a fu’n boblogaidd iawn a chroesawyd ambell gangen o Ferched y Wawr, gan gynnwys cangen Hwlffordd.

Mae hi wastad yn her i ddenu cynulleidfa Gymreig i’r Torch. Er hynny ac ers Covid, a’r Torch yn ail-agor ei drysau i’r cyhoedd, mae cynyrchiadau Cymraeg yn profi i fod yn fwy poblogaidd wrth i fwy o bobl ddysgu’r iaith ac yn awyddus i’w chlywed a’i defnyddio. Rydym hefyd yn cynnal sesiynau Coffi Cymraeg bob yn ail ddydd Mawrth o’r mis lle rydym yn croesawu siaradwyr o bob gallu mewn awyrgylch hamddenol yng Nghaffi’r Torch. Rydyn ni wir yn griw gwych ac wedi ymddangos yn ddiweddar ar raglen gylchgrawn dyddiol Prynhawn Da ar S4C. Fe wnaethom hefyd wahodd a chroesawu Shan Cothi o’r BBC i gynnal ei sioe Gymraeg gyda ni gyda chefnogaeth Menter Iaith Sir Benfro. Ac nid yn unig cawsom fore bendigedig llawn hwyl a chwerthin, cawsom hefyd bice ar y maen blasus iawn wrth i ni drafod pob pwnc dan haul yn Gymraeg.

Mae ein pyst ar gyfryngau cymdeithasol a datganiadau i'r wasg yn ogystal â'n cynnwys gwe oll yn ddwyieithog yn ogystal â'r holl lyfrynnau sy’n cael eu dosbarthu i’r cyhoedd.

Dros y blynyddoedd rwyf wedi gweithio i amryw o gwmnïau theatr a darlledu ac mae’r profiadau a gefais ar hyd y daith wedi bod yn amhrisiadwy. O fod yn ohebydd gorllewin Cymru gyda BBC Cymru i fod yn gynhyrchydd cynnwys byw yn y Sioe Frenhinol (oll trwy gyfrwng y Gymraeg). Gweithiais i’r Tivyside Advertiser yn Aberteifi am dros 20 mlynedd fel gohebydd crwydrol ac fe wnes i fwynhau bod allan yn yr awyr agored yn cwrdd â phobl ac ymchwilio i straeon, golygu a chyfieithu, gan ffocysu ar gynnwys y dudalen Gymraeg.

Rwyf hefyd yn ffodus iawn o gael ymennydd creadigol iawn – mae fy nychymyg yn rhedeg ar ras ac mae hyn wedi caniatáu i mi ysgrifennu dros 10 nofel i blant trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Profodd cyfres Siani Shetland yn boblogaidd iawn ac roedd yn seiliedig ar Ferlen Shetland go iawn. Chwaraeodd ran bwysig iawn yn fy mywyd teuluol. Gyda’n gilydd, ymwelodd Siani a minnau â dros 100 o ysgolion ledled Cymru ac ymddangosodd ar sawl rhaglen deledu. Roedd pobl wrth eu bodd â Siani ac yn cael eu hysbrydoli’n llwyr pan gyfarfu â’r prif gymeriad – roedd hyn yn denu llawer i ddarllen ei straeon ac i ymlwybro i fyd llenyddiaeth Gymraeg. Ers hynny rwyf wedi ysgrifennu, addasu a chyfieithu cyfres Diesel the Donkey ac Abigail’s Magic.

Yn ystod y cyfnod hwn, mae fy mamiaith wedi agor nifer o ddrysau ac wedi fy ngalluogi i gwrdd â chydweithwyr gwych. Mae sicrhau presenoldeb yr iaith Gymraeg yn y Torch yn hollbwysig, gan roi llwyfan i ddysgwyr y Gymraeg deimlo’n hamddenol wrth ddefnyddio’r iaith, gan fagu hyder a balchder. Rydym hefyd yn dilyn canllawiau Iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru ac yn cynnig croeso cynnes Cymreig i chi yn y Torch.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.