MAE PANTOMEIM THEATR Y TORCH ANGEN EICH HELP!

Mae Belle wedi cael gwahoddiad i'r ddawns a does ganddi hi ddim byd i'w wisgo! Mae pantomeim Nadoligaidd Theatr y Torch eleni yn stori mor hen ag amser gyda thro yn y gynffon; Beauty and the Beast. Mae’r Bwystfil wedi gwahodd yr hyfryd Belle  i’r Ddawns, ac mae angen ffrog hudolus ar gyfer Tywysoges, ond mae cwpwrdd y castell yn wag. Mae Theatr y Torch, Aberdaugleddau, yn galw ar ddylunwyr ifanc a dylunwyr ffasiwn ar draws Sir Benfro a gorllewin Cymru i helpu! 

Mae’r Torch yn cynnal cystadleuaeth o’r enw ‘Dylunio Gwisg ar gyfer Belle’ lle gall unrhyw un rhwng pump a 18 oed ddylunio ffrog Belle ar gyfer y ddawns. Bydd y cais buddugol yn cael ei wneud yn wisg go iawn ac yn cael ei gwisgo gan Belle yn y panto eleni ac fel yr eglura Kevin Jenkins, dylunydd set a gwisgoedd y cynhyrchiad, mae hwn yn gyfle gwych.  

“Mae dyfodiad Belle i ddawns y Bwystfil yn un o’r eiliadau mwyaf hudolus yn ein pantomeim! Dyma'r tro cyntaf i'r gynulleidfa ei gweld fel tywysoges hardd. Yn yr amrantiad hwn wrth iddi gerdded i lawr y grisiau mawreddog dylai'r gynulleidfa gael eu syfrdanu a gwenu. Hoffwn i bawb (ar y llwyfan ac yn y gynulleidfa) syrthio mewn cariad â Belle!” 

Mae Kevin yn annog pob cystadleuydd i fynd yn greadigol tu hwnt gyda'u dyluniadau. 

Ychwanegodd: “Mae yna fersiwn adnabyddus o ffrog ddawns Belle, sydd wedi’i lliwio’n felyn, ond dydyn ni ddim wedi penderfynu pa liw ddylai’r ffrog fod eto – chi sydd i benderfynu. Hoffwn gael fy synnu a rhyfeddu gan y lliwiau, siapiau a gweadau gwreiddiol y credwch y dylai Belle fod yn eu gwisgo. Yr unig derfyn yw eich dychymyg!” 

Mae Tim Howe, Uwch Reolwr Ieuenctid a Chymuned yn y Torch yn edrych ymlaen yn fawr at weld yr holl gynigion. 

Dywedodd: “Hoffai’r tîm creadigol yma yn y Torch weld pa ddyluniadau gwych y gall pobl ifanc hyd at 18 oed eu cynnig a bydd un enillydd lwcus yn gweld eu dyluniad yn cael ei drawsnewid yn wisg Belle ar y llwyfan i bawb ei gweld – mae mor gyffrous a hudolus ac am gyfle arbennig ydyw i’r enillydd.” 

Bydd Beauty and the Beast yn cael ei pherfformio yn Theatr y Torch rhwng 15 Rhagfyr a dydd Sul 31 Rhagfyr. Prisiau tocyn: £22.50 / £19.00 consesiynau a £70 ar gyfer tocyn Teulu. 

Os hoffech ragor o wybodaeth am y gystadleuaeth cysylltwch â'n Uwch Reolwr: Ieuenctid a Chymuned, Tim Howe – tim@torchtheatre.co.uk / 01646 694192. 

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.