Blog No. 17 - Liz May

Helo, Yasmin Kiff ydw i a minnau yw’r Swyddog Marchnata Digidol yma yn Theatr Torch.

Dechreuais weithio yn y Torch ym mis Mai 2022. Dim ond am gyfnod byr oedd hyn gan i mi eni fy mab ym mis Medi y flwyddyn honno. Fe ges i ychydig o fisoedd corwynt yn mynd i’r afael â’r rôl a chwrdd â’r tîm hyfryd yma yn y Torch. Ailgydiais yn fy rôl ym mis Awst 2023, ac mae dychwelyd i'r lle prysur tu hwnt yma wedi bod yn wych. Rwy’n cael gweithio gyda’r holl adrannau gwahanol, felly nid oes yr un diwrnod yr un peth ac rwyf wedi fy amgylchynu gan gydweithwyr hyfryd, felly mae’r swyddfa yn lle gwych i fod.

Yn ddyddiol, byddaf yn ysgrifennu postiadau cyfryngau cymdeithasol, rwy'n anfon e-byst at gleientiaid, yn ogystal â dylunio rhai graffeg (er hynny, nid wyf mor fedrus ag Amanda, ein dylunydd mewnol, felly dim ond rhai sylfaenol y byddwch chi'n eu gweld gennaf i). Dw i’n teimlo weithiau mod i’n rhyw fath o grëwr cynnwys fideo wedi creu clipiau o ‘Chelsey a Tim ar y Soffa’ lle maen nhw’n sôn am gynyrchiadau amrywiol sydd yna’n cael eu huwchlwytho i lwyfannau cyfryngau cymdeithasol. Mae'n ymwneud â defnyddio'ch dychymyg i ymgysylltu â'r cyhoedd.

Y tu allan i’r gwaith, rwy’n treulio amser gyda fy nheulu a ffrindiau, yn ogystal â mynd ar anturiaethau o amgylch Sir Benfro gyda nifer o deithiau cerdded hyfryd gyda’n cŵn labrador du. Rydyn ni hefyd yn hoffi cael gwyliau dros y flwyddyn os gallwn ni!

Yn ogystal â bod yn fam, mae rhai o gyflawniadau mwyaf fy mywyd yn cynnwys cerdded i gopa Mynydd Kilimanjaro, codi arian ar gyfer BEAT a beicio o Sir Benfro i Blackpool gyda Chlwb Ffermwyr Ifanc Sir Benfro gan godi arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru a Prostate Cymru. Fel cyn aelod brwd o CFfI Keyston, fe wnes i fwynhau perfformio ar y llwyfan, cymryd rhan mewn siarad cyhoeddus ac fe wnes i gymryd rhan mewn amryw o gystadlaethau rali.

Rwyf wrth fy modd yn gweithio ochr yn ochr â phobl greadigol sy’n ddyrchafol ac mae gallu helpu i hyrwyddo esiampl eiconig yn Sir Benfro fel y Torch yn gyffrous iawn. Rydyn ni'n cael cymaint o hwyl yn cael gwneud gweithgareddau amrywiol a meddwl am ffyrdd o ymgysylltu â'r cyhoedd.

Mae gweithio o fewn y tîm marchnata yn cynnig heriau dyddiol newydd gyda rhywbeth newydd yn ymddangos bob wythnos. Rydym am wneud yn siŵr y gallwn helpu i roi'r profiad gorau posibl i ymwelwyr o bell ac agos sy’n dod i'r Torch.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.