Bywyd o Gyfoeth neu Wir Gariad?

Bydd darllediad wedi’i recordio o Manon gan y Royal Opera yn eich ysgubo oddi ar eich traed yn Theatr y Torch ddydd Sul yma 11 Chwefror.

​Mae’r addasiad yma o nofel Abbé Prévost yn ymgorffori Kenneth MacMillan ar ei orau, ei fewnwelediad craff i seicoleg ddynol a’i feistrolaeth ar goreograffi naratif yn canfod mynegiant llawn yn neuawdau angerddol y cwpl canolog, yn weledol ac ar frys yn eu dyhead.

Mae brwydr yr arwres i ddianc rhag tlodi yn gwneud Manon yn un o’r bales mwyaf dramatig a dinistriol, a bwysleisir gan ddyluniadau atgofus Nicholas Georgiadis sy’n adlewyrchu’r cyfosodiad rhwng gwreiddiau tlawd Manon a’r byd moethus y mae’n dyheu amdano

Yn hytrach na thynnu cerddoriaeth o straeon operatig Manon, yn cynnwys Manon Lescaut gan Puccini neu opera Jules Massenet Manon (wedi’u hysbrydoli gan nofel Prévost), mae’r cerddor dawns enwog Leighton Lucas a’i gynorthwyydd Hilda Gaunt wedi darparu sgôr wedi’i thynnu o bob rhan o weithiau casgledig Massenet. Mae cerddoriaeth bale Manon yn cynnwys ei Elégie hiraethus enwog fel y thema ar gyfer y cariadon.

Bydd tymor 2023/24 yn dathlu can mlynedd Nicholas Georgiadis.

Gellir gweld y darllediad wedi ei recordio o Manon yn Theatr Torch ddydd Sul yma 11 Chwefor am 2pm. Pris tocyn: £20. Consesiwn: £18. O dan 26: £9.

Am docynnau ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu cliciwch yma.

CYLCHLYTHYR THEATR TORCH

Yn y Sbotolau!

Ydych chi am fod y cyntaf i glywed am berfformiadau sydd ar ddod, cynigion tocynnau unigryw, a'r digwyddiadau y tu ôl i'r llenni yn Theatr Torch? Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a gadewch i'r ddrama ddod atoch chi.