CAMU’N ÔL MEWN AMSER YN Y TORCH

Mae'r gwaith o adeiladu'r set wedi hen ddechrau yma yn Theatr y Torch ar gyfer cynhyrchiad Private Lives. Mae'r lloriau wedi eu gosod, mae'r waliau wedi'u papuro. Ni fydd yn hir nes y gallwn eich croesawu i weld y sioe ddoniol a’r setiau hardd a ddyluniwyd gan Kevin Jenkins.

Mae Kevin yn ddylunydd set a gwisgoedd ac wedi bod yn dylunio ar gyfer y theatr ers 17 mlynedd wedi iddo hyfforddi ar Gwrs Dylunio Theatr Motley. Mae wedi dylunio ar gyfer nifer o gynyrchiadau gan gynnwys Constant CompanionsFamily Album, The Girl Next Door and A Brief History of Women a throsglwyddwyd i Theatrau 59E59 yn Efrog Newydd. Er hynny, dyma fydd ei dro cyntaf yn dylunio’r llwyfan a’r gwisgoedd yn y Torch.

Mae’r tad i ddau o Swydd Derby wedi mwynhau ei ymweliadau â Sir Benfro ac mae’r cynhyrchiad o Private Lives wedi bod yn ddiddorol ac wedi rhoi boddhad fel yr eglura Kevin:

“Roedd gan Chelsea, y Cyfarwyddwr Artistig, weledigaeth glir o’r hyn

roedd hi ei eisiau. Mae’r llwyfan i fod yn ddehongliad hwyliog o’r cyfnod gydag arddull art-deco a dyna’n union rydyn ni wedi’i greu.”

Mae dechrau ar brosiect newydd bob amser yn gyffrous ac yn heriol ond mae Kevin wedi mwynhau dylunio'r set yn fawr.

“Yn gyntaf darllenais y sgript i ddod i adnabod y cynhyrchiad. Byddaf yn ei ddadansoddi, er enghraifft, i weithio allan nifer y mynedfeydd i'r ystafell neu i weld a oes unrhyw gyfeiriadau penodol at ddillad. Byddaf yna’n ymchwilio i’r cyfnod ac yn cael sgyrsiau hir gyda’r cyfarwyddwr,” meddai Kevin nad oedd erioed wedi gweld cynhyrchiad llwyfan o Private Lives o’r blaen.

“Rwyf wedi gwylio fersiynau sgrin ohono ar YouTube ond rwy’n hoffi cael fy mewnwelediad fy hun ohono yn gyntaf er mwyn peidio â chael fy nylanwadu gan eraill. Ond ar yr un pryd, mae’n wych gweld ongl pobl eraill a chael syniadau.

“Daeth yr act gyntaf yn weddol gyflym ac mae ganddi ddatganiad beiddgar. Cafodd Chelsey a minnau sgyrsiau da iawn gyda bwrdd Pinterest llawn gwybodaeth. Roedden ni am gael y teimlad glan môr yma, gyda’r balconïau, pob un â drws o ystafell wely gwesty. Fe wnaeth yr ail act gymryd fwy o amser i ddod at ei gilydd yn rhannol gyda'r nod o ddod o hyd i art deco esthetig beiddgar tra'n cydnabod, mewn gwirionedd, y byddai llawer o'r dodrefn ryw 20 mlynedd yn hŷn. Roedd yn heriol,” esboniodd Kevin a weithiodd yn agos gyda’r Rheolwr Cynhyrchu, Andy Sturley ar y pwyntiau technegol.

Ers pandemig Covid, mae Kevin bellach yn gweithio’n ddigidol o’i gymharu â’r rhan fwyaf o ddylunwyr theatr sy’n defnyddio’r broses draddodiadol iawn o ddefnyddio modelau ar raddfa o 1 i 25.

“Yn ystod Covid fe wnes i ail-sgilio ac mae dylunio’n ddigidol yn cynnig manteision. Mae'n wych os ydw i am newid rhywbeth funud olaf. Bellach gellir anfon y dyluniadau at unrhyw un a phawb sydd eu hangen heb orfod bod yn un model ffisegol” esboniodd Kevin.

Yr wythnos hon, bydd Kevin yn ymweld â'r Torch ac yn gweithio'n agos gyda'r Goruchwylydd Wardrob ar gyfer rhai cyffyrddiadau munud olaf ac i sicrhau bod yr holl ffitiadau gwisgoedd yn mynd yn dda a'u bod yn ffitio'n berffaith.

Yna bydd yn gweithio ar gynhyrchiad Cinderella yn Theatr Derby cyn dychwelyd i Theatr y Torch ar gyfer pantomeim Nadoligaidd Beauty and the Beast.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.