CANU O'R GALON YN THEATR Y TORCH
Ydych chi'n chwilio am ddigwyddiad ble fedrwch ganu mewn grŵp yn wythnosol a hynny mewn awyrgylch hwyliog, anffurfiol a chyfeillgar? Os felly, Côr Cymunedol croesawgar Theatr y Torch - Lleisiau’r Torch yw’r lle perffaith i chi.
Mae ein sesiynau wythnosol yn Theatr y Torch yn naw deg munud o ganu corawl llawen. Mae’r grŵp yn agored i bawb o ddechreuwyr i gantorion profiadol ac mae’n chwilio am aelodau newydd i ymuno yr hydref hwn.
Mae Tim Howe, Uwch Reolwr Ieuenctid a Chymuned yn y Theatr yn annog pawb i gymryd rhan:
“Mae Lleisiau’r Torch yn ofod i unrhyw un dros 18 oed. Nid oes angen clyweliad ac nid yw’n ofynnol. Mae ein côr yn croesawu pobl frwdfrydig a hoffai ganu mewn grŵp a datblygu eu sgiliau perfformio corawl. Yn bwysicaf oll, byddem wrth ein bodd pe baech yn ymuno os ydych am gael hwyl a gwneud cyfeillgarwch newydd cymaint ag y dymunwch ganu!” eglurodd Tim.
Ychwanegodd: “Er ein bod yn cyfarfod bob wythnos i ymarfer, cymdeithasu – ac weithiau perfformio mewn cyngherddau – does dim pwysau i fynychu’n wythnosol. Dewch pan mae’n gyfleus i chi a’ch amserlen.”
Arweinir Lleisiau’r Torch gan Angharad Sanders sydd â llu o brofiad perfformio proffesiynol a chyfarwyddo cerddorol gan gynnwys teithiau mawr ar draws y DU ac yn rhyngwladol.
Os yw Lleisiau’r Torch yn apelio, yna chwibanwch eich ffordd i Theatr y Torch ar nos Iau rhwng 6pm a 7.30pm. Mae sesiynau yn £5 yr un neu £50 am y tymor cyfan. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â thîm Swyddfa Docynnau Theatr y Torch ar 01646 694192 a byddant yn hapus i siarad gyda chi.
Os hoffech ragor o wybodaeth am ymuno, cysylltwch â'n Uwch Reolwr: Ieuenctid a Chymuned, Tim Howe – tim@torchtheatre.co.uk / 01646 694192.
CYLCHLYTHYR THEATR TORCH
Yn y Sbotolau!
Ydych chi am fod y cyntaf i glywed am berfformiadau sydd ar ddod, cynigion tocynnau unigryw, a'r digwyddiadau y tu ôl i'r llenni yn Theatr Torch? Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a gadewch i'r ddrama ddod atoch chi.