CHOICE GRENFELL - DYDD MERCHER 16 MAWRTH, 7.30PM

“Gofynnwn am bleser eich cwmni” yn Theatr y Torch

Ydych chi erioed yn teimlo fel gweiddi "Rhowch stop i’r byd, dw i am fynd oddi arno!"?

Rydym yn byw mewn byd gwallgof, onid ydym ac yn un digon creulon ar adegau. Wel, mae cwmni cynhyrchu theatr arloesol iawn yn cynnig y cyfle hwnnw i chi...dim ond am noson...ond am un noson! Mae Choice Grenfell, cynhyrchiad Kick in the Head, yn dod i Theatr y Torch ar ddydd Mercher Mawrth 16, gan nodi 40 mlynedd ers colli Joyce Grenfell.

I'r rheiny ohonoch na chawsoch erioed y cyfle i weld a chlywed y Joyce Grenfell hyfryd...mae gennych chi rywfaint o ddal i fyny i'w wneud...a dyma'ch cyfle! Roedd Joyce yn ddigrifwr, monolegydd a chantores hynod boblogaidd a swynol yn y 50au a’r 60au, a oedd wedi lansio ei gyrfa yn y 40au yn gwneud gwaith rhagorol gan ddiddanu’r milwyr mewn mannau pellennig yn ystod yr ail ryfel byd. Mae'r stoiciaeth siriol y mae hi bob amser yn ei harddangos mor atgoffaol o'r slogan sydd fel petai wedi dod yn boblogaidd eto yn ddiweddar, "Cadwch yn dawel a daliwch ati."

Yn y cyfnod ansicr hwn daw noson hyfryd o gynhesrwydd, ffraethineb a hiwmor tyner. Mae Choice Grenfell yn cynnwys rhai o ganeuon a monologau hyfryd Joyce o “Stately as a Galleon” a “School Nativity Play” i “A Terrible Worrier” a “First Flight.” Joyce yw ein tywysydd ar gyfer archwiliad hyfryd i rai o’i chymeriadau mwyaf hyfryd, yng nghwmni ei phianydd a’i chyfarwyddwr cerdd dibynadwy William Blezard.

Mae cynhyrchydd y sioe hon wedi cael mynediad at lythyrau personol ac oriau o recordiadau cyfweliad gan William Blezard er mwyn gwneud y sioe hon mor ddilys â phosibl.

 Mae modd gweld perfformiad o Choice Grenfell yn Theatr y Torch, Aberdaugleddau, ar nos Fercher 16 Mawrth am 7.30pm. Mae tocynnau’n £14 ac £13 am gonsesiynau ac ar gael i’w harchebu fesul ein Swyddfa Docynnau ar 01646 695267, neu ar-lein yma

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.