SESIYNAU CYFNEWID DILLAD THEATR Y TORCH YN DYCHWELYD YR HYDREF HWN

Dros y misoedd diwethaf mae Theatr y Torch, Aberdaugleddau nid yn unig wedi bod yn fwrlwm o weithgarwch gyda dangosiadau sinema, digwyddiadau byw ac ysgol haf boblogaidd, ond mae hefyd wedi cynnal dau brynhawn Cyfnewid Dillad llwyddiannus iawn ac mae digwyddiadau tebyg eraill ar y gweill. Mae'r digwyddiadau Cyfnewid Dillad yn mynd law yn llaw â'i dangosiadau sinema ac mae ffilmiau o'r gorffennol wedi cynnwys Fashion Reimagined a Joyland.

Mae’r digwyddiad Cyfnewid Dillad yn cael ei gynnal bob dau fis gyda’r digwyddiad nesaf ar ddydd Sul 17 Medi rhwng 2pm a 4pm gyda chyfle i weld Theatre Camp ac fel yr eglura Tim Howe, Uwch Reolwr Ieuenctid a Chymuned yn y Torch, mae’n ffordd o helpu’r amgylchedd yn ogystal â gweld ffilmiau poblogaidd ar garreg eich drws.

“A oes gennych chi drowsus blinedig? Ydych chi wedi diflasu ar eich top? Ydy hi'n bryd eu cyfnewid? Peidiwch ag edrych ymhellach na’n digwyddiad Cyfnewid Dillad yma yn Theatr y Torch – digwyddiad sy’n agored i bawb. Cyfnewidiwch eich eitemau glân o ddillad yr ydych eisoes wedi eu caru am ddillad eraill er mwyn hybu defnydd cynaliadwy, ac ni fydd yn costio ceiniog i chi! Bydd y dillad sy’n weddill yn cael eu huwchgylchu a’u defnyddio yn ein cynyrchiadau Theatr Ieuenctid felly mae’n sefyllfa lle mae pawb ar eu hennill.”

Mae Theatr y Torch yn derbyn dillad, esgidiau ac ategolion y mae plant ac oedolion eisoes wedi eu caru, ac mae’r Torch yn eich annog i ddod â rhywbeth i’w gyfnewid. Er hynny, nid oes angen i’r hyn sydd gennych ddod gyda chi fod o’r un gwerth neu ddilledyn tebyg ag y byddwch yn mynd ag ef adref gyda chi. Efallai bod eich darn newydd o ddillad yn rhywbeth hollol wahanol i’ch cwpwrdd dillad arferol, o ran lliw ac arddull, felly gadewch i’ch dychymyg redeg yn wyllt!

Cyfarwyddwr Artistig Theatr y Torch, Chelsey Gillard sy’n esbonio mwy:

“Mae’r digwyddiadau hyn yn wych ar gyfer dod â’r gymuned ynghyd. Mae’r digwyddiadau Cyfnewid Dillad wedi’u cefnogi’n dda iawn, cymaint felly, fel ein bod yn cynllunio ymlaen llaw a byddwn yn cynnal y digwyddiadau hyn drwy gydol y flwyddyn. Maent yn wych ar gyfer ymgysylltu â’r gymuned a chynnig rhywbeth ychydig yn wahanol lle gall pobl nid yn unig gyfnewid dillad, gallant hefyd ymweld â’n Caffi Torch a chael cinio ysgafn neu ymweld â’n sinema i weld ffilm a gwneud prynhawn ohoni.”

Yn dilyn y digwyddiad ar ddydd Sul 17 Medi, bydd digwyddiad Cyfnewid Dillad arall yn digwydd ar ddydd Sul 19 Tachwedd rhwng 2pm – 4pm. 

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Swyddfa Docynnau Theatr y Torch ar (01646) 695267.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.