Cwmni Dawns Ransack yn teithio i Theatr y Torch gyda’i sioe newydd, ‘Us and Them.’

Yr hydref hwn, bydd Cwmni Dawns Ransack yn teithio i Theatr y Torch gyda chynhyrchiad dwbl ac uchelgeisiol o ddawns gyfoes athletaidd, y gair llafar a cherddoriaeth fyw. Yn ogystal, ceir perfformiad gan aelodau o’r gymuned leol.

Mae Us and Them yn archwilio undod a gwahaniad fel ei gilydd a daw i’r Torch ar nos Wener 2 Chwefror am 7.30pm. Bydd yn cwestiynu sut rydyn ni’n cysylltu â rhai pobl trwy rannu profiadau, tra’n datgysylltu ag eraill trwy greu rhwystrau. Perfformir y darn pwerus hwn hefyd ynghyd â grwpiau lleol o bob rhan o’r gymuned. Bydd rhai grwpiau’n cymryd rhan yn y perfformiad ar y llwyfan, tra bydd eraill yn arddangos y gwaith maen nhw wedi’i wneud mewn gweithdai gyda phrif ddawnswyr y cwmni.

Dywedodd Sarah Rogers, Cyfarwyddwr Artistig Cwmni Dawns Ransack:

“Rydym wrth ein bodd yn dod â’r gwaith cyffrous hwn i gymunedau ledled Cymru. Mae Cwmni Dawns Ransack wedi ymrwymo i ddarparu cynyrchiadau theatr ddawns o safon uchel, a chreu gwaith sy’n hygyrch, yn ddeniadol ac yn procio’r meddwl, ar gyfer pobl o bob oed, pob profiad a phob cefndir.

“Edrychwn ymlaen at weithio a dawnsio gyda’r grwpiau cymunedol ar y daith, a rhannu ein perfformiadau gyda chynulleidfaoedd. Rydyn ni hefyd wedi gweithio i wneud y cynhyrchiad yn hygyrch ar gyfer pobl f/Fyddar a Thrwm eu Clyw, gan gynnwys Iaith Arwyddion Prydain (BSL) yn y perfformiad trwy ddulliau creadigol. Yn ogystal â gwneud y gwaith yn fwy hygyrch, gobeithiwn fod hyn wedi creu coreograffi cyffrous y gall cynulleidfaoedd ei fwynhau.”

Bydd Us and Them ar lwyfan Theatr y Torch ar nos Wener 2 Chwefror am 7.30pm. Tocynnau £15 / O dan 26: £12. Am docynnau ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu drwy glicio yma.

CYLCHLYTHYR THEATR TORCH

Yn y Sbotolau!

Ydych chi am fod y cyntaf i glywed am berfformiadau sydd ar ddod, cynigion tocynnau unigryw, a'r digwyddiadau y tu ôl i'r llenni yn Theatr Torch? Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a gadewch i'r ddrama ddod atoch chi.