Dyluniad Ioan yn Plesio'r Torch

Mae enillydd cystadleuaeth ‘Dylunio Ffrog Ddawns i Belle’ yn Theatr y Torch wedi’i ddewis! O ydy mae e! Ac mae’n ffrog ddawns hynod gyfareddol a disglair, pefriog a hynod syfrdanol, sy’n siŵr o wneud i chi feddwl tybed lle gallwch chi brynu eich un eich hun. Ond dim ond un lle sydd i’w gweld ac mae hynny yng nghynhyrchiad Theatr y Torch o Beauty and the Beast fis Rhagfyr yma.

Enillydd y gystadleuaeth allan o dros 80 o geisiadau, yw’r dylunydd ffasiwn sydd ar ddod - Ioan, naw oed, o Ddinbych-y-pysgod. Dywedodd wrth Theatr y Torch ei fod wrth ei fodd ei fod wedi ennill.

“Penderfynais gymryd rhan yn y gystadleuaeth oherwydd mae mam yn gwybod fy mod yn caru celf gymaint. Dywedodd wrthyf am y peth a phenderfynais fynd i mewn ac ymuno. Roeddwn i'n meddwl y byddai'n cŵl iawn gweld rhywbeth yr oeddwn wedi'i ddylunio ar y llwyfan. Rwy’n teimlo’n hapus, mewn sioc ac yn gyffrous iawn i weld y ffrog,” meddai Ioan.

Mae Ioan, sydd wedi cael ei ysbrydoli gan ei fam-gu, wedi rhoi llawer o feddwl ac ymdrech i mewn i'w ddyluniad.

“Yn gyntaf oll edrychais ar wahanol siapiau o ffrogiau ar yr iPad. Roeddwn i'n gwybod bod Belle yn hoff iawn o lyfrau felly roeddwn i am wneud yn siŵr eu bod nhw ar y ffrog. Roeddwn i'n meddwl y byddwn i'n ei newid ychydig a pheidio â defnyddio melyn, sef ei lliw arferol. Ychwanegais ddiemwntau i roi mwy o pizazz iddi!”

Mae Tim Howe, Uwch Swyddog Ieuenctid a Chymuned yn y Torch yn dweud bod yr ymateb ar gyfer y gystadleuaeth wedi bod yn anhygoel.

​ “Cawsom ein syfrdanu gan yr ymateb i’n cais am help gyda ffrog ddawns Belle. Roedd gennym ddyluniadau yn llifo i mewn o bob rhan o'r sir a thu hwnt. Gyda chymaint o geisiadau gwych, cawsom ein sbwylio gan ddewis, gan dreulio oriau hir yn penderfynu pa un oedd wir yn dal yr hyn yr oeddem ei eisiau ar gyfer Belle wrth iddi fynychu dawns pen-blwydd y Bwystfil," esboniodd Tim.

Pan ddaeth hi’n amser dewis yr enillydd, roedd yn benderfyniad anodd i’r tîm yn y Torch, ond fe ddaliodd dyluniad Ioan eu sylw fel yr eglura Tim:

​"Fe wnaeth dyluniad Ioan argraff fawr arnom. Roedd y lliwiau'n gyffrous iawn ac yn fywiog, roedd yn ymddangos yn union sut y byddai Belle yn teimlo yn y foment honno. Rhoddodd heriau creadigol gwych i ni hefyd gyda'i ddewis o sut roedd pethau'n edrych - ac rydyn ni'n hoffi her! Rydw i mor gyffrous i weld y dyluniad terfynol yn ei holl ogoniant. Rwy'n gwybod y bydd ein cynulleidfaoedd wrth eu bodd.”

Bydd dyluniad ffrog ddawns Ioan nawr yn cael ei wneud yn ffrog go iawn i Belle ei gwisgo ar y llwyfan trwy gydol y cynhyrchiadau. Caiff y ffrog ei gwneud gan y dylunydd Kevin Jenkins a’r Tîm Cwpwrdd Dillad sy’n methu aros i gael dechrau ar y gwaith gwnïo.

​Mae’r holl ddyluniadau yn y gystadleuaeth i’w gweld trwy gydol mis Rhagfyr yn Oriel Joanna Field yn y Torch. A pheidiwch ag anghofio, os ydych am weld y ffrog ddawns yn ei holl ogoniant bydd angen i chi weld Beauty and the Beast, pantomeim ysblennydd Theatr y Torch.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.