TAITH 2022 GWANWYN FAIRPORT CONVENTION
Ar nos Wener 27 Mai, byddwn yn croesawu dychweliad Fairport Convention, y band Roc-Gwerin Prydeinig sydd wedi bod yn adlonni carwyr cerddoriaeth am dros hanner canrif, gyda 2022 yn gweld dathlu ei ben-blwydd yn 55 oed!
Bydd cyngerdd Taith Gwanwyn 2022 Fairport Convention yn cyflwyno cymysgedd o ffefrynnau Fairport sydd wedi hen ennill eu plwyf ac ambell syrpreis o albymau hen a newydd gan gynnwys eu halbwm diweddaraf, Shuffle & Go, a ryddhawyd ychydig cyn y ‘cyfnod clo’ yn 2020.
Mae Fairport Convention wedi ennill Gwobr Llwyddiant Oes y BBC a phleidleisiodd gwrandawyr Radio 2 eu halbwm arloesol Liege & Lief fel 'Yr Albwm Gwerin Mwyaf Dylanwadol Holl Amser'. Mae eu stori wedi cael ei ddathlu gyda rhaglenni dogfen teledu ar BBC Four a Sky Arts.
Mae'r band yn cynnwys yr aelod sylfaenydd Simon Nicol ar y gitâr a llais, Dave Pegg ar y gitâr fas (yn dathlu ei hanner canfed flwyddyn yn Fairport), Ric Sanders ar y ffidil, Chris Leslie ar ffidil, mandolin a llais, a Gerry Conway ar offerynnau taro.
Bydd Confensiwn Fairport yn Theatr y Torch ar nos Wener 27 Mai am 7.30pm. Pris tocynnau’n £28 ac maent yn gwerthu'n gyflym. Archebwch eich tocynnau yma.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.