FINDING CHESTER

Paratowch ar gyfer hwyl, dwyster, dyfeisgarwch gweledol, pypedwaith, masgiau, dawns, cân a llawer o chwerthin wrth i Theatr y Torch fynd ar daith gydag Edith Tiddles. Mae Edith yn cael popeth wedi ei ddanfon i’w drws – rholiau toiled, dillad a'i nwyddau. Nid yw wedi camu allan o’i chartref am 15 mlynedd! Ond pan mae ei chath Chester, yn mynd ar goll, mae Edith angen help ei thîm danfon lleol Trevor a’i ferch dawel Taz sydd ar brofiad gwaith, i gael ei chath yn ôl.

Mae Finding Chester yn mynd â ni ar daith anturus o amgylch trefi, dinasoedd a chefn gwlad gwerthfawr Prydain, wrth i’n harwyr annhebygol ddilyn traciau’r gath sydd wedi mynd ar goll. O Gaerlŷr i Lands’ End, Llundain i’r Llynnoedd. A fydd Chester y gath ac Edith yn aduno? Ymunwch â Rhubarb Theatre i ddarganfod mwy wrth iddynt ymweld â Theatr y Torch ar ddydd Mercher 31 Mai am 11.30am.

Sioe yw Finding Chester sy’n cael ei hadrodd trwy ddyfeisgarwch gweledol, pypedau, masgiau, dawns, cân a llawer o chwerthin gan dîm gwych Theatr Rhubarb, theatr deithiol i blant, sydd hefyd yn ffocysu ar adrodd straeon, perfformiadau gŵyl a theatr stryd. Mae’n addas ar gyfer teuluoedd a phlant 5+ oed (ni chaiff ei hargymell ar gyfer plant dan 5 oherwydd y defnydd o fasgiau yn y sioe).

Bydd Finding Chester yn ymweld â Theatr y Torch ar fore dydd Mercher 31 Mai am 11.30am. Tocynnau’n £12.00 | £10.00 Plentyn | £40.00 Teulu. Gellir prynu tocynnau o Swyddfa’r Tocynnau ar 01646 695267 neu ymwelwch â torchtheatre.co.uk. 

 

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.