FINDING HOME Q&A

Bydd Theatr y Torch yn croesawu drama o'r enw 'Finding Home' - cynhyrchiad sy'n ffocysu ar storiâu go iawn am ddigartrefedd ar nos Fawrth 2 Mai a nos Fercher 3 Mai am 7.30pm. 

Roeddwn am ddarganfod mwy am yr actorion, yr awduron a'r llinell stori, felly fe aeth Tîm Marchnata'r Torch i wneud peth ymchwil ... 

Dywedwch ychydig wrthym am eich rôl yn Finding Home.

Nick Hywell (Cobbit):

Y minnau sy’n chwarae rhan ‘Cobbit’, cyn-filwr sy’n byw ar strydoedd Caerdydd wedi i mi ddychwelyd adref o genhadaeth cadw heddwch ym Mosnia. Yn ystod drama ‘Finding Home’, dysgwn pam fod Cobbit ar y strydoedd a sut mae’n delio gyda’r trawma ac euogrwydd o’i brofiadau o wrthdaro. Mae wedi gwneud i mi feddwl tipyn am sut mae’n dynion a menywod gwasanaeth arfog yn cael eu trin wedi iddyn nhw frwydro dros eu gwlad.

Disgrifiwch yn gryno beth yw testun y ddrama?

Bethan Morgan (Ysgrifennwr a Lola):

Mae ‘Finding Home’ am realiti digartrefedd yn y wlad hon. Dilyna grŵp o gymeriadau sy’n darganfod ei hun heb gartref am wahanol resymau. Maent yn dod at ei gilydd i greu eu teulu eu hun. Gwelwn y caledi maent yn eu hwynebu a’r canlyniadau: rhai hapus, a rhai trist iawn.

Ydy’r testun wedi bod yn agoriad llygad i chi?

Nia Ann (Claire):

Mae paratoi ar gyfer y prosiect hwn wedi bod yn brofiad calonogol a wir yn werthfawr.

Mae gwrando ar bobl yn adrodd eu straeon am sut y daethant yn ddigartref wedi rhoi cipolwg i mi ar y cymhlethdodau sy’n gallu achosi digartrefedd - arwain, gorfodi, neu gymell person i gysgu ar y strydoedd. Y mwyaf trawiadol fu natur unigryw taith pob person sy’n dangos nad yw’r ffordd i ddigartrefedd yn dilyn rhyw fath o ‘lyfr drama’.

Wrth ffocysu ar ddatblygu fy nghymeriad, rydw i wir am ddangos gronynogrwydd o berson yn wynebu digartrefedd - y foment ddiffiniol honno pan mae hi wir yn amgyffred ei sefyllfa. Wrth gwrs, erbyn i ni gwrdd â hi, mae Clare wedi bod yn ddigartref ers amser - yn cysgu yn ei char. Ond pan fydd y gofod personol olaf hwnnw’n cael ei gymryd oddi wrthi a’i harian wedi prinhau, fe’i gwelwn yn dod i delerau â’r realiti. Does neb yno yn aros i’w hachub - ac nad yw ei “systemau” disgwyliedig yno, ddim yn addas i bwrpas, neu'n rhy glwm mewn biwrocratiaeth.

Yr broblem gwallgof a chynhyrfus yn yr ystafell yw bod COVID wedi dangos i ni, pan fydd yr ewyllys yno, fod llywodraethau a biwrocratiaeth letchwith yn gallu gweithredu’n gyflym ac yn bendant. Yn drasig, bu’r ffocws hwnnw ond yna am eiliad gyflym, cyn i’r diffyg diddordeb a’r diystyrwch blaenorol ddychwelyd eto.

Mae’r ddrama wedi ei selio ar ddigwyddiadau go-iawn, a ydy hyn wedi effeithio arnoch yn emosiynol?

Rowan Talbot (Cyfansoddwr a Jimmy):

Fel cwmni, yn ystod cyfnod ymchwil a datblygu’r prosiect, fe wnaethom dreulio tipyn o amser yn darllen a thrafod straeon bywyd go iawn bobl a oedd wedi profi digartrefedd. Roedd hi, ar adegau, yn broses emosiynol a dylanwadol. Torcalonnus oedd nifer o'r straeon a ddarllenwyd ac a glywsom. Mae’n anodd peidio â theimlo tosturi tuag at yr unigolion sydd wedi cael profiadau mor ofnadwy. Y fwyaf o straeon a ddarllenwn a’r mwyaf o bobl y bûm yn siarad â nhw trwy gydol y broses honno, y mwyaf y gwnaethom sylweddoli pwysigrwydd adrodd y stori hon.

Pa effaith yr ydych yn gobeithio y caiff hyn ar y gynulleidfa?

Bethan Morgan (Ysgrifennwr a Lola):

Gobeithiaf y bydd y gynulleidfa’n dod yn fwy ymwybodol o’r brwydrau y mae pobl sy’n eu cael eu hunain yn ddigartref yn eu hwynebu. Y bwriad yw y bydd y gynulleidfa’n sylweddoli na ddylech wneud rhagdybiaethau cyffredinol bod pobl yn y pen draw ar y strydoedd oherwydd eu bod yn wastraffwyr ac yn ddefnyddwyr cyffuriau, ond mae yna amryw reswm pam eu bod lle maen nhw a llawer o drawmâu a brofwyd. Gall rhai rhesymau fod yn agos at adref i rai aelodau o'r gynulleidfa.

Pa mor bwysig ydyw eich bod yn rhannu profiadau o ddigartrefedd gyda Chymru a’r byd?

Sarah Pugh (Megan):

Mae’n hynod bwysig rhannu’r profiadau hyn gan nad yw digartrefedd yn cael ei ddiffinio gan ffiniau. I ddinistrio’r stereoteipiau anghywir sydd gan bobl o’r gymuned ddigartref, rhaid i ni godi ymwybyddiaeth o’r rhestr faith o resymau y gall rhywun ganfod eu hunain heb le i’w alw’n gartref. Rhaid rhannu pa mor anhygyrch yw cyllid a systemau cyfyngedig y llywodraeth a roddwyd ar waith ond hefyd herio'r gynulleidfa i gwestiynu eu rôl mewn cymdeithas a sut y gallant fod o gymorth.

A oeddech chi wedi sylweddoli’r effaith a gaiff digartrefedd ar unigolion, eu teuluoedd ac elusennau cyn ymgymryd â’r rôl?

Mari Izzard (Charlie):

Cyn ‘Finding Home’ roeddwn yn ymwybodol o beth oedd y mymryn lleiaf mae’n debyg, beth oedd ar gael yn hawdd yn y newyddion neu’n sylwi ar y cynnydd mewn digartrefedd ar ein strydoedd. Ond ni allaf ddweud fy mod yn gwybod neu'n ymwybodol o faint mae'n effeithio ar unigolion / yr hyn rwy'n gwybod nawr, ers dechrau ymarferion! Mae wir wedi bod yn brosiect sydd wedi agor llygad!

A ydych chi’n edrych ymlaen ymweld â’r Torch a Sir Benfro a pham?

Rhys Downing (Bagsy):

Fel un balch o orllewin Cymru, rwyf wrth fy modd cae dychwelyd i’r Torch a Sir Benfro. Mae gen i atgofion aruthrol o ymweld â’r sir syfrdanol a pherfformio yn Aberdaugleddau, gan gynnwys fy nhaith gyntaf fel actor proffesiynol ddegawd yn ôl. Gobeithiaf wneud y mwyaf o fy amser yno ar y llwyfan ac yn yr ardal.

Bydd Finding Home yn ymweld â Theatr y Torch ar nos Fawrth 2 Mai a nos Fercher 3 Mai am 7.30pm. Tocynnau’n £14 / £12 consesiwn. Gellir prynu tocynnau o’r Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu glicio yma. 

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.